Cymerwch olwg ar lyfryn Gŵyl Tafwyl 2013

23/05/2013

Categori: Bwyd, Celfyddydau, Iaith, Newyddion

Roedd Tafwyl 2012 yn rhan o ŵyl Caerdydd am y tro cyntaf ac yn llwyddiant ysgubol gyda chynulleidfa o dros 8,500 yn mynychu ar y dydd.

 

Eleni byddwn yn adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl ac unwaith eto yn cynnal prif ddigwyddiad Tafwyl yng Nghastell Caerdydd, ar Fehefin 15fed.

 

Bydd stondinau amrywiol yn y ffair yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig; yn ogystal â gweithdai a sesiynau llenyddol, cerdd, celf, coginio a drama. Bydd prif lwyfan gyda pherfformiadau byw gan artistiaid gwerin, roc a phop mwyaf llwyddiannus y sin gerddoriaeth Gymraeg, sesiynau acwstig, diddanwyr stryd, sesiynau dawns, maes chwaraeon, a gweithgareddau i blant o bob oedran.

 

Cymerwch olwg ar llyfryn eleni:

 

Llyfryn Tafwyl

 

Cliciwch yma