Cymru yn dod i'r brig mewn arolwg mabwysiadu

29/09/2020

Categori: Addysg, Iechyd, Newyddion

Mae Cymru wedi dod i'r brig mewn arolwg mabwysiadu ledled gwledydd Prydain, ond mae angen mwy o gefnogaeth o hyd ar gyfer plant bregus, yn ôl adroddiad newydd.

Ochr yn ochr â nodi darlun sy'n gwella ar lawer ystyr, mae tystiolaeth o hyd bod bywydau rhai o blant mwyaf bregus gwledydd Prydain yn cael eu heffeithio gan gyfleoedd a gollwyd i roi cefnogaeth amserol a digonol iddynt, mae adroddiad newydd yn datgelu heddiw.

Mae'r Baromedr Mabwysiadu, a gyhoeddwyd gan yr elusen Adoption UK, yn disgrifio'r effaith ddramatig y gall y gefnogaeth gywir ei chael. Bellach yn ei ail flwyddyn, mae'r Baromedr yn seiliedig ar yr arolwg mwyaf erioed o fabwysiadwyr. Eleni, ymatebodd 5,000 o bobl i'r arolwg, gyda 361 ohonynt yng Nghymru.

 

Mae'r Baromedr Mabwysiadu hefyd yn asesu polisïau'r llywodraeth sy'n rheoleiddio mabwysiadu. Polisïau Cymru a sgoriodd orau, gyda thri maes o bolisi yn sgorio ‘da’ - Cymeradwyaethau a Chyfateb, Mabwysiadwyr Newydd eu Lleoli a Theuluoedd Sefydledig. Polisi yn ymwneud â dod o hyd i deuluoedd i blant a sgoriodd orau yn gyffredinol.

 

Fodd bynnag, sgoriodd pob gwlad yn wael mewn o leiaf un maes polisi. Polisi yn ymwneud ag Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws a sgoriodd waethaf, gyda’r holl genhedloedd yn cael eu hasesu fel rhai ‘gwael’, ac roedd profiadau mabwysiadu plant â FASD neu yr amheuir eu bod hefyd yn ‘wael’ ym mhob gwlad.

 

Bu cynnydd yng Nghymru ers Baromedr y llynedd, gan adeiladu ar y gwelliant a welwyd ers i Gymru weithredu ei Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

 

Prif themau

 

Un o'r prif themâu sydd wedi dod i'r amlwg ledled gwledydd Prydain yw'r methiant i ddarganfod a thrin niwed i'r ymennydd a achosir gan blant yn dod i gysylltiad ag alcohol yn y groth. Mae'r adroddiad yn datgelu bod mwy nag un o bob pedwar o blant mabwysiedig yng Nghymru (28%) naill ai'n cael diagnosis o FASD neu yr amheuir eu bod yn dioddef ohono. Roedd 53% o deuluoedd a holwyd yng Nghymru wedi aros dwy flynedd neu fwy am ddiagnosis, ac roedd 68% yn teimlo nad oedd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol wybodaeth sylfaenol am y cyflwr hyd yn oed, er bod FASD yn fwy cyffredin yn y boblogaeth yn gyffredinol nag awtistiaeth.

 

Dywedodd un fam sy’n mabwysiadu, Joanne, o Dde Cymru: “Dywedwyd wrthym y gallai fod gan ein mab FASD pan ddaeth atom yn bedair oed, ond dywedwyd wrthym na fyddem byth yn cael diagnosis am nad oedd ganddo'r nodweddion wyneb cysylltiedig. Buan iawn y daeth yn dreisgar ac yn ymosodol. Byddai’n flin iawn am ddwy awr bob nos pan roedden yn ei roi i'w wely. Byddai’n taflu pethau, taro, cicio, crafu. Rydw i wedi cael tri llygad du ac mae gen i graith ar fy ngên yn sgil cael fy nharo â channwyll. Gwelsom feddygon teulu, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant Glasoed, tîm niwro-ddatblygiadol a seiciatrydd plant cyn i feddyg ddiagnosio ein mab â FASD o'r diwedd. Cawsom ein rhyddhau yr un diwrnod heb gynnig unrhyw gefnogaeth. ”

 

Profodd tua thri chwarter y plant mabwysiedig drais, camdriniaeth neu esgeulustod wrth fyw gyda'u teuluoedd biolegol, yn aml ag effeithiau gydol oes ar eu perthnasoedd, eu hiechyd a'u gallu i ddysgu. Er gwaethaf yr heriau sylweddol, mae'r adroddiad yn dangos bod mabwysiadwyr yng Nghymru yn parhau i fod yn gadarnhaol ac yn gydnerth - byddai 75% yn annog eraill i ystyried mabwysiadu.

 

Methiannau mewn polisi

 

Ond mae methiannau mewn polisi ac ymarferiad a cholli cyfleoedd i ymyrryd yn golygu bod problemau yn aml yn adeiladu i argyfwng. Mae bron i hanner (48%) y teuluoedd â phlant hŷn yn nodi heriau difrifol, megis cael eu tynnu i mewn i ymddygiad camfanteisiol troseddol, gan gynnwys camfanteisio rhywiol ar blant a gweithgareddau llinellau sirol. Mae mwyafrif llethol (66%) yr ymatebwyr o Gymru sydd â phlant oed ysgol yn rhagweld y byddant yn gadael yr ysgol heb lawer neu ddim cymwysterau oherwydd nad oedd ganddynt y gefnogaeth gywir.
Dywedodd awdur yr adroddiad Becky Brooks: “Mae'n hanfodol yn foesol ac yn economaidd bod teuluoedd sy'n mabwysiadu yn cael y gefnogaeth gywir o'r diwrnod cyntaf. Ac eto, nid oedd gan 68% o'r teuluoedd mabwysiadol newydd a ymatebodd i'r arolwg gynllun cymorth ar waith. Mae'r gost i'r plentyn, y teulu ehangach a'r gymdeithas pan fydd teulu mabwysiadol yn dymchwel, yn annerbyniol."

 

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: “Mae'r Baromedr yn wiriad i'w groesawu gan deuluoedd sy'n mabwysiadu o ran lle'r ydym fel gwasanaeth. Mae'r canfyddiadau'n nodi'n galonogol bod gwelliannau wedi'u gwneud. Maent hefyd yn adlewyrchu lle gwyddom fod mwy o waith i'w wneud, yn benodol mynediad at gymorth mabwysiadu a gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc mabwysiedig.
“Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol yn y meysydd hyn dros y flwyddyn ddiwethaf gyda chefnogaeth cronfa cymorth mabwysiadu o £2.3m gan Lywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at adroddiadau yn y dyfodol i weld yr effaith y mae hyn yn ei chael.
“Ar y cyfan, mae yna rai negeseuon cadarnhaol iawn yn yr adroddiad i’w dathlu ac rydym yn falch o weld bod mabwysiadu yng Nghymru mewn lle da o ran ei daith wella. Dyma'r union beth y sefydlwyd NAS i'w gyflawni. "

 

Mae'r Baromedr Mabwysiadu yn galw ar lywodraethau ym mhob un o bedair gwlad gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon i ddarparu asesiadau therapiwtig manwl ar gyfer pob plentyn cyn iddynt gyrraedd eu teulu newydd, gyda chynlluniau cymorth cyfoes i'w cynnal hyd at oedolion cynnar.