Cymru yn wynebu Rwsia mewn gêm dyngedfennol

21/06/2016

Categori: Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Bron i 13 mlynedd yn ol, fe chwalodd Rwsia obeithion cewri fel Craig Bellamy, John Hartson a Ryan Giggs yng Nghaerdydd, o gyrraedd pencampwriaeth Ewrop ym Mhortiwgal.

Methiant arall ymhlith sawl un yn hanes y tîm cenedlaethol.Yn y dorf bryd hynny, roedd hogyn yn ei arddegau o Gaerdydd yn gwylio gyda’i dad a’i enw oedd Gareth Bale. 

 

Gan weindio ymlaen i 2016, mae Cymru unwaith yn rhagor, yn wynebu Rwsia ond y tro hwn mae Cymru wedi llwyddo i gyrraedd pencampwriaeth Ewrop yn Ffrainc. Ac mae Gareth Bale bellach yn 26 oed yn arwain y llu, gyda dwy gol. Er gwaetha’r siom brynhawn Iau yn erbyn Lloegr pan ildiwyd gol yn y funud olaf, mae gan Gymru dal gyfle da i fynd trwodd i’r ail rownd. Yn ôl yr ystadegwyr, mae sawl posibliad yn gallu deillio o'r canlyniadau heno, ble fydd Lloegr hefyd yn wynebu Slovakia.

 

Fe fydd y gêm heno yn ninas Toulouse yn dyngedfennol gyda Chymru yn sicr o fynd ymlaen i'r ail rownd petaent yn ennill, ac mae carfan Cymru yn barod am yr her. Mae is-hyfforddwr Cymru, Osian Roberts wedi cyhoeddi fod yr holl garfan yn ffit ar gyfer gêm ola’r grŵp.  

 

Mae miloedd o Gymru wedi mudo i Ffrainc am y mis ar gyfer y bencampwriaeth ac fe fyddant yn mawr obeithio y bydd ei gwyliau estynedig yn parhau. 

 

Hoffai staff Lleol.cymru ddymuno pob lwc i’r tîm gan obeithio y byddant yn mynd ymlaen i’r ail rownd. 

 

C’mon Cymru!!

 

Dyma gyfle i chi ail-fyw gol Gareth Bale yn erbyn Lloegr