Cymru'n wynebu y cyntaf o ddwy gêm dyngedfennol

06/10/2017

Categori: Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Mae tîm pêl-droed Cymru yn wynebu y cyntaf o ddwy gêm dyngedfennol am 5 heno yn Georgia, gyda’i gobeithion o gyrraedd Cwpan y Byd yn yfantol.

Gyda Gareth Bale allan o’r ddwy gêm gyda anaf, fe fydd y pwysau ar weddill y tîm i gael dwy fuddudoliaeth yn erbyn Georgia a Gweriniaeth Iwerddon adre yng Nghaerdydd nos Lun. Mae angen i Gymru guro’r ddwy er mwyn sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd yn Rwsia, ond mae RHAID ennill y ddwy er mwyn mynd trwodd yn gyffyrddus. 

 

Mae Cymru ar hyn o bryd yn sefyll ar 14 pwynt, dim ond 4 pwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen Serbia. Fe all Gymru hawlio’i lle yn y rowndiau terfynol pe bai Serbia yn colli y ddwy gêm yn weddill ond mae hynny’n anhebygol.

 

Fe fydd hi'n bosib i Gymru fynd i’r rowndiau ail gyfle pe baent yn ennill un gêm ac yn cael gêm gyfartal ond mae hynny’n ddibynnol wedyn ar ganlyniadau timau eraill.

 

Heb Bale

 

Fe fydd Cymru heb Bale yn wynebu her anodd yn Georgia, ac fe fydd y Wal Goch yn lled ddisgwyl i Ben Woodburn y tro hwn ddechrau’r 90 munud a rhoi perfformiad ysbrydoledig. Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen yn hyderus fod gan Gymru ddigon o dalent newydd ac addawol i lwyddo heb Bale. Mae’r tîm wedi bod yn y sefyllfa hon o’r blaen ac wedi dod trwyddi. Does yna ddim pwysau felly!

 

Mae Chris Coleman wedi dweud wrth y wasg nad yw'n amser i siomi’r cefnogwyr rwan. Ciw tîm Cymru! 

 

Fe fydd y genedl yn gwylio!

 

Mae Lleol.cymru wedi creu pôl piniwn, ydych chi’n credu y bydd Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia? Mae cyfle i chi bleidleisio yma: 

 

A fydd Cymru'n cyrraedd Cwpan y Byd?

  • A.
    Byddant - mynd i Rwsia yn awtomatig
  • B.
    Cyrraedd Rwsia trwy'r gemau ail gyfle
  • C.
    Colli yn y gemau ail gyfle
  • D.
    Colli'r ddwy gêm sy'n weddill
  • E.
    Dim digon o bwyntiau i fynd trwodd

(Mae'r arolwg barn yma wedi cau)

A
17%

B
83%

C
0%

D
0%

E
0%