Cymunedau'n elwa trwy gydweithredu yn y diwydiant coedwigaeth

24/11/2017

Categori: Amgylchedd, Newyddion

Mae effaith cludo coed ar gymunedau gwledig wedi bod yn destun pryder, ond mae partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, sectorau coedwigaeth preifat ac awdurdodau lleol Sir Gâr, Ceredigion a Phowys yn ymdrin â’r broblem trwy gyfrwng Fforwm Cludo Pren Tywi.

Sefydlwyd y fforwm yn 2012 gan ragflaenydd Cyfoeth Naturiol Cymru, sef Comisiwn Coedwigaeth Cymru, gyda’r nod o symud cymaint ag y bo modd o’r traffig a oedd yn gysylltiedig â chludo pren oddi ar ffyrdd di-ddosbarth trwy ddefnyddio ffyrdd oddi mewn i goedwigoedd.

 

Dywedodd Brian Hanwell, Rheolwr Ardal Lleol CNC: “Mae agor ffyrdd coedwigoedd i draffig cludo pren wedi bod o fudd i gymunedau gwledig bach.

 

“Er enghraifft, mae 7,000 o gerbydau a fyddai o bosibl wedi gyrru trwy bentref Rhandirmwyn, yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, yn ystod y pum mlynedd diwethaf wedi defnyddio ffordd goedwig wyth milltir o hyd rhwng Esgair Dafydd a Chwm Henog.”

 

Erbyn hyn dyma’r ffordd goedwig brysuraf yng Nghymru, gan symud traffig oddi ar gefnffordd yr A483 ar ddaliadau coedwig 10,000 hectar Tywi Uchaf, gyda nifer y cerbydau wedi dyblu er 2013.

 

Mae’r gost o gynnal a chadw ffyrdd cludo a rennir o fudd i gymunedau, yn cefnogi diwydiannau gwledig ac yn lleihau traul ar briffyrdd cyhoeddus; a chan fod ffyrdd coedwig â gro arnynt yn rhatach i’w cynnal a’u cadw na ffyrdd tarmac, maent yn arbed arian cyhoeddus.

 

Mae buddsoddiad y fforwm o ran gwella a chynnal a chadw’r ffordd, a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer cludo oddeutu wyth o lorïau bob diwrnod, yn enghraifft wych o gydweithio sy’n esgor ar dwf economaidd tra’n cydnabod anghenion y gymuned leol.

 

Ychwanegodd Brian: “Rydym yn annog yr holl gludwyr i gofrestru gyda ni er mwyn defnyddio ffordd goedwig Esgair Dafydd i Gwm Henog. Mae awdurdodiad o’r fath yn rhoi gwell eglurder i’r gofynion yswiriant, ac nid ydym yn codi unrhyw dâl am hyn.

 

“Ymhellach, mae modd inni roi newyddion ynglŷn â chau ffyrdd i gludwyr pren, diolch i’n cysylltiadau agos â’r awdurdodau priffyrdd. A hefyd rydym yn ceisio ategu arferion da a gaiff eu hyrwyddo gan y cod ymddygiad ar gyfer cludo pren crwn ar ffyrdd.”

 

Ymestyn cylch gwaith y fforwm

 

 

Yn ddiweddar, mae’r fforwm wedi ymestyn ei gylch gwaith ymhell y tu hwnt i Gwm Tywi Uchaf.

 

Roedd cryn dipyn o draffig cludo pren o ddaliadau Tilhill Forestry a Scottish Woodlands ym Mannau Brycheiniog i fod i deithio trwy gymuned fechan Y Coelbren yng Nghwm Tawe.

 

Cyn i’r gwaith gychwyn, cynhaliwyd ymgynghoriad gyda chynrychiolwyr lleol, peirianwyr priffyrdd a rheolwyr coedwigoedd a luniodd Gynllun Rheoli Traffig Cludo Pren Y Coelbren ar y cyd.

 

Roedd y cynllun yn cyfyngu ar yr arfer o gludo pren i amseroedd penodol yn ystod y dydd er mwyn osgoi amseroedd danfon/nôl plant ysgol, a cheid cyfyngiad cyflymder o 20 milltir yr awr hyd nes yr oedd y traffig wedi cyrraedd cefnffordd yr A4221.

 

Meddai Alastair Squire, Uwch Rheolwr Coedwigoedd a Chynaeafu yn Scottish Woodlands, ac Iwan Parry, Uwch Reolwr Coedwigoedd yn Tilhill Forestry Limited:

 

“Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd i leihau effaith traffig cludo pren ar gymuned Y Coelbren. O fewn dim, roedd ein cludwyr wedi cytuno ac yn cydymffurfio â’r cynllun, ac ymddengys fod hyn wedi ymdrin â’r holl faterion a oedd yn pryderu trigolion yr ardal.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru