Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Wrecsam yn niweidiol i’r Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr

22/11/2018

Categori: Amgylchedd, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Wrecsam wedi ei newid i fod yn niweidiol i’r Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae’r Gymdeithas yn gwrthwynebu’r cynllun yn llwyr, ond mae rhannau penodol ohono yn dangos bod Cyngor Wrecsam yn cymryd camau di-angen sy’n achosi niwed amlwg i'r Gymraeg.

 

Mae’r Cyngor, er enghraifft, wedi ychwanegu cymal sy’n dweud bod yn rhaid i ddatblygiadau newydd yng nghadarnleoedd y Gymraeg cael enwau dwyieithog.

 

“Mae cymunedau fel Coedpoeth, Rhosllannerchrugog, Pen-y-cae a Dyffryn Ceiriog yn cael eu hadnabod a’u trin yn wahanol gan Gyngor Wrecsam am fod y Gymraeg yn gymharol cryf yno,” esboniodd Aled Powell, cadeirydd Cell Wrecsam o’r Gymdeithas.

 

“Ond mae’r cymal newydd yn dweud bod yn rhaid i enwau ac arwyddion newydd yn y cymunedau hyn yn fod yn ddwyieithog.

 

“Mae’n hen arferiad rhoi enwau Cymraeg yn unig ar ddatblygiadau a strydoedd, gyda nifer fawr o enghreifftiau mewn cymunedau ar hyd a lled y sir.

 

Hurt

 

“Mae’n hurt bod Cyngor Wrecsam nawr yn bwriadu gorfodi rhoi enwau Saesneg a hynny dim ond yn yr ardaloedd ble mae’r Gymraeg yn gymharol cryf.

 

“Yn naturiol, mi fuasai’n dda i’r Gymraeg pe bai enw Cymraeg yn unig ar bob datblygiad newydd, ond rydym yn credu y dylid parchu diwylliant a hanes pob safle unigol. Gall hynny golygu cyflwyno, cadw, neu adfer enw Cymraeg, Saesneg neu hyd yn oed iaith arall mewn rhai achosion.” Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig sgrapio dau gymal o’r cynllun fel na fydd yn rhaid llunio cynllun i barchu’r Gymraeg os bydd siopau neu cyflogwyr mawrion yn codi adeiladau newydd yng nghadarnleoedd y Gymraeg. Mae’r Gymdeithas hefyd yn amau honiad y Cyngor y bydd y cynllun datblygu yn cael effaith positif ar y Gyrmaeg. “Rydym wedi edrych trwy adroddiad gwerthusiad cynaliadwyedd y cynllun ac mae’n cydnabod effeithiau ansicr, o bosib yn negyddol ar y Gymraeg. “Nid ydym yn deall sut gall y cynllun ei hun dod i'r casgliad bod yr adroddiad wedi canfod y byddai effaith positif i'r iaith ar y cyfan.”