Cynlluniau arfaethedig yn ymosodiad ar ddemocratiaeth, yn ôl mudiad iaith

04/01/2021

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i ollwng cynlluniau arfaethedig i drosglwyddo nifer o bwerau allweddol o gynghorau sir i bedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig newydd.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, byddai’r cynlluniau hyn yn “tanseilio democratiaeth leol ac yn gwanhau polisi iaith ar lefel sirol”.

 

Mae’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a basiwyd ym mis Tachwedd, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig i drefnu Datblygu Rhanbarthol rhwng Cynghorau Sir cyfagos. Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, sy’n dod i ben heddiw, yn cynnig y dylid ffurfio pedwar Cyd-bwyllgor yn ‘Y Canolbarth’, ‘Y De-orllewin’, ‘Y Gogledd’ ac ‘Y De-ddwyrain’.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith, Ffred Ffransis: “Byddai’r cynlluniau arfaethedig yma’n cael effaith andwyol ar yr iaith a chymunedau Cymraeg. Saesneg fyddai iaith weinyddol y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yma gyda chyfieithu ond ar gael i’r rhai sydd am siarad Cymraeg yn ffurfiol. Ni fydd dyfodol yr iaith a chymunedau Cymraeg â'r un flaenoriaeth ag sydd ar hyn o bryd dan gynghorau fel Gwynedd, Môn, Sir Gâr a Cheredigion, felly byddai’r cynlluniau yma’n cynrychioli cam enfawr yn ôl o ran y Gymraeg. Mae’n annhebygol iawn, er enghraifft, y bydd gan Gyd-Bwyllgor y De-Orllewin (sef ardal Dinas-Ranbarth Bae Abertawe) yr un pwyslais ar ddatblygu cymunedau gwledig Cymraeg ag sydd yn Sir Gâr.”

 

Diffyg mewn democratiaeth

 

Ychwanegodd: “Mae’r cynlluniau arfaethedig yma hefyd yn ymosodiad ar ddemocratiaeth leol a pherchnogaeth cymunedau lleol dros gynllunio eu dyfodol. Eisoes gwelsom ddiraddio mwyafrif ein cynghorwyr etholedig trwy fod prif benderfyniadau'n cael eu cymryd gan Fwrdd Gweithredol neu Gabinet; byddai’r cynlluniau yma’n gwaethygu’r diffyg presennol yma mewn democratiaeth ac atebolrwydd. Byddai’r cyrff newydd yma’n uwchraddol i’n cynghorau sir ac yn golygu y bydd pŵer gwleidyddol yn cael ei symud yn fwyfwy pell o ddwylo pobl gyffredin a chymunedau Cymru. Byddai’r cynlluniau yma felly’n tanseilio democratiaeth leol ac yn gwanhau polisi iaith ar lefel sirol. Mae’r Bil ei hun wedi pasio trwy’r Senedd, ond mae cyfle o hyd i atal y niwed. Dylai’r rheoliadau i sefydlu’r Cydbwyllgorau gael eu diwygio i egluro mai hybu cydweithio, heb rym gweithredol, yw’r nod, a dylid newid yr ardaloedd i adlewyrchu’n well anghenion ein cymunedau Cymraeg ac i alluogi rhai o’r cydbwyllgorau i weithio’n bennaf yn Gymraeg.”