Cynnal rali yn galw am drawsnewid addysg Gymraeg

12/02/2016

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal rali yng Nghaerdydd yfory yn galw am yr angen i drawsnewid y ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei ddysgu.

Fel rhan o’r rali, Bydd sawl grŵp, gan gynnwys yr undeb athrawon UCAC, Dathlu'r Gymraeg a Merched y Wawr, yn llofnodi datganiad yn galw ar yr holl bleidiau sy'n sefyll yn etholiadau'r Cynulliad i drawsnewid y ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu. Caiff y datganiad ei lofnodi yn y rali 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg' a gynhelir yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, 13eg Chwefror) lle bydd y gantores a'r digrifwr Caryl Parry Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC Elaine Edwards a'r gantores Kizzy Crawford o Aberfan yn annerch y dorf. 

 

Yn siarad cyn y rali, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Pa blaid neu bleidiau bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru, mae rhaid iddyn nhw weithredu gyda gweledigaeth a gwireddu ewyllys y Cymry i weld ein hiaith yn ffynnu. Ar drothwy etholiadau'r Cynulliad, un o'n galwadau pwysicaf yw sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. Mae'r gwleidyddion yn honni eu bod eisiau creu Cymru gwbl ddwyieithog – ond ni fydd y drefn addysg bresennol yn llwyddo i wneud hynny. Yn ôl ffigyrau'r Llywodraeth ei hun, mae twf addysg Gymraeg yn rhyfeddol o araf. Does bosibl y gall unrhyw un ddadlau nad yw'n cymryd yn rhy hir. Allwn ni ddim aros dros 800 mlynedd." 

 

Siarad dwy iaith

 

Dywedodd gantores a digrifwr Caryl Parry Jones: "Be' sy'n bod ar siarad dwy iaith? Dim na all gweledigaeth, ewyllys a pharch ei ateb. Mae'r Gymraeg ISIO byw". Ychwanegodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb athrawon UCAC: " Er mwyn i ni lwyddo i gyrraedd y nod mae angen  cynllunio'r gweithlu addysg yn llawer mwy effeithiol - denu siaradwyr Cymraeg rhugl a hefyd gwella sgiliau Cymraeg eraill. Mae angen cynllunio'r holl weithlu gan gynnwys gwasanaethau cefnogi addysg. Mae'n rhaid symud ymlaen ar frys i greu a gweithredu polisïau cadarn a chlir am y Gymraeg - gan gynnwys dileu Cymraeg ail iaith. Mae polisïau addysg y gorffennol wedi creu'r problemau - dewch i ni sicrhau bod polisïau addysg y dyfodol yn eu datrys." 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru