Cynnydd mewn prisiau yswiriant ceir yn dechrau arafu
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Newyddion

Mae adroddiad gan AA Roadside Recovery Group yn datgan bod y cynnydd mewn prisiau yswiriant ceir yn dechrau arafu ar ol tair mlynedd o gynnyddion uchel iawn.
Yn y 12 mis i Mawrth 2011 roedd prisiau wedi cynyddu ar gyfertaledd tua 40%, ond yn y 6 mis i diwedd mis Medi 2011 roedd hyn wedi lleihau i fod yn gynnydd o 16%.
Mae Credit Suisse hefyd o’r farn bod cystadleuaeth yn y farchnad yn rhannol gyfrifol am arafu’r cynydd mewn prisiau.
Er yn ol yr ABI ( Association of British Insurers) mae’r sector yswiriant ceir wedi bod yn gwneud colledion pob flwyddyn ers 1994. A gyda chostau hawliadau yn parhau i gynnyddu mae’r sector yn talu allan £1.20 am bob £1 o bremiwm sydd yn cael ei gasglu.
Felly er bydd prisiau yswiriant car yn dal i godi y gobaith yw na fydd y cynyddiadau hyn mor uchel ar hyn a brofwn yn ystod y 3 mlynedd diwethaf.
Erthygl gan: Gwilym Roberts Tarian (Yswiriant) Cyf