Cynrychioli Cymru mewn ffair dwristiaeth
Categori: Amgylchedd, Hamdden, Newyddion

Bydd Croeso Cymru a’i bartneriaid yn dangos y gorau y gall y wlad ei gynnig yn y sioe fasnach, y British Tourism and Travel Show yr wythnos hon yn yr NEC, Birmingham.
Y sioe dwristiaeth yw prif sioe fasnach y DU ar gyfer y diwydiant twristiaeth domestig. Disgwylir gweld mwy na 250 o stondinwyr a thros 3,000 o ymwelwyr – yn benderfynwyr ac yn fasnachwyr – dros ddeuddydd y sioe.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Mae’r gwanwyn yn dymor prysur yn y calendr sioeau twristiaeth. Yn yr wythnosau diwethaf, mae Croeso Cymru wedi bod yn brysur yn gwerthu Cymru trwy ei Sioe Deithiol Antur yn Explore GB a’r ITB Berlin i gynulleidfa ryngwladol. Mae’r sioe hon yn gyfle i siarad yn uniongyrchol â threfnwyr teithiau ac asiantwyr gwyliau o’r farchnad ddomestig.
“Mae’n bwysig bod Cymru’n cael ei gweld yn y sioeau hyn er mwyn creu a meithrin perthynas â’r sector ddylanwadol hon a sicrhau bod Cymru ym mlaen eu meddyliau wrth iddyn nhw chwilio am gyrchfannau newydd ar gyfer eu cleientiaid.
“Mae presenoldeb yn y sioeau teithio yma yn rhan o ymdrech farchnata i werthu Cymru i'r byd fel erioed o'r blaen. Yn ddiweddar, fe lansiwyd ymgyrch farchnata Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru. Mae'r ymgyrch £5m yn rhaglen farchnata uchelgeisiol aml-farchnad, aml-sianel mawr. Un elfen o’r ymgyrch yw hysbyseb teledu a sinema arloesol –gyda’r actor Hollywood, Luke Evans yn serennu ynddi.
Sefyllfa gref
Ychwanegodd Ken Skates, ‘Mae twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref, cafwyd cynnydd o 12% yn nifer yr ymwelwyr rhyngwladol i Gymru a chynnydd o 51% mewn gwariant ymwelwyr undydd yn ystod 2016, rydym nawr yn edrych ymlaen at gynnal y ffigurau hyn yn ystod y Flwyddyn Chwedlau."
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru