Darganfod trysorau yn y de orllewin

16/03/2018

Categori: Addysg, Celfyddydau, Hamdden, Newyddion

Mae chwe darganfyddiad yn dyddio o 800CC i’r 16eg ganrif heddiw wedi cael eu dynodi’n drysor gan grwner yn Sir Gaerfyrddin.

Darganfuwyd y gwrthrychau trwy fetel ddatgelyddion metel i gyd gan aelodau’r cyhoedd, ac mae pob un yn bwysig iawn gan y byddant yn galluogi archaeolegwyr i daflu goleuni ar agweddau llai hysbys o hanes Cymru.

 

Mae’r gwrthrychau yn amrywio o dair bwyell socedog o’r Oes Efydd a ddaeth i’r fei yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin i fodrwy arian gilt addurniadol o’r 16eg ganrif a ganfuwyd yng nghymuned Maenorbŷr, Sir Benfro. 

 

Darganfuwyd y celc bychan o fwyeill gan Mr Paul Williams a dyma’r hynaf o’r trysorau – bron i 3,000 o flynyddoedd oed.

 

Mae’n debygol iddynt gael eu darnio’n fwriadol cyn eu claddu fel rhan o ddefod fechan gan gymuned leol neu ofaint efydd.

 

Ardal hynod bwysig

 

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru: “claddwyd y celf ger cyffordd afonydd Gwendraeth, Tywi a’r Tâf ble mae’r tair yn llifo i fae Caerfyrddin. Mae’n awgrymu bod y lleoliad hwn gyda’i afonydd a’i arfordir yn hynod bwysig i’r cymunedau yma yn yr Oes Efydd.”

 

Roedd y celc Rhufeinig a ganfuwyd gan Mr Stephen Witts wedi ei gladdu yn y 3edd ganrif OC ac wedi’i orchuddio â phowlen ben i waered. Yn ôl Edward Besly, Niwmismatydd yn Amgueddfa Cymru, mae’r ceiniogau yn gelc nodweddiadol o’r cyfnod, a’r lleoliad ger ffynnon gyfagos yn awgrymu eu bod yn cael eu cadw at y dyfodol.

 

Dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru: “Mae hyn yn awgrymu ei fod unwaith yn rhan o gelc a gladdwyd oddeutu troad y 10fed ganrif ac mae felly’n taflu goleuni ar weithgarwch y Llychlynnwr yn Sir Benfro yn y cyfnod.” 

 

Ychwanegodd Dr Redknap, “Daeth arwyddocâd y canfyddiad hwn yn amlwg diolch i Fanyldeb y cofnod canfod a gadwyd gan Mr Lunn.”

 

Canfuwyd y matrics sêl arian gan Mr Roy Cox. Arno mae’r llythrennau P ac I, sef llythrennau’r perchennog mwy na thebyg.

 

Seliau canoloesol

 

Yn ôl Dr Redknap: “Mae matricsau seliau canoloesol yn bwysig a dros y blynyddoedd mae Cynllun Henebion Cludadwy Cymru  wedi llwyddo i gofnodi nifer dros y blynyddoedd. Mae’r bas data cynyddol hwn yn datgelu hanesion cudd, gan ddarparu enwau unigolion fyddai fel arall yn anhysbys, yn ogystal â gwybodaeth am eu statws, eu teuluoedd, yr economi, pŵer a chrefydd yng Nghymru.”

 

Mae’r fodrwy o’r 16eg ganrif, a ganfuwyd gan Mr Shaun Butler, yn debyg i esiamplau eraill, gan gynnwys modrwy a ganfuwyd ar long ryfel Harri VIII a suddodd ym 1545, y Mary Rose, a nifer o leoliadau eraill ar draws Cymru a Lloegr.

 

Gellir dyddio’r amgarn arian, a ganfuwyd gan Mr Frank Walters, i droad y 17eg ganrif ac mae’n debygol taw perthyn i wain arf â llafn tenau, fel y cleddyf main.