Dathlu brwydr menywod Cymru a’r byd ar S4C
Categori: Addysg, Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Hamdden, Newyddion

Fe fydd mis Mawrth 2018 ar S4C yn llawn rhaglenni difyr am fenywod dewr, penderfynol, dygn ac angerddol wrth i’r sianel nodi canrif ers i rai menywod gael y bleidlais ym 1918.
Mae’r amserlen yn cynnwys rhaglenni dogfen gafaelgar am fod yn fenyw ac yn fam heddiw, gyda dwy o ddarlledwyr amlyca’ Cymru, Alex Jones a Ffion Dafis yn eu cyflwyno.
Fe fydd hefyd rhaglenni adloniant a dogfen a fydd yn cynnwys portread o sêr pop benywaidd y 1960au a’r 1970au, gig gyda rhai o artistiaid yr 21ain Ganrif, rhifyn arbennig o’r rhaglen drafod Pawb a’i Farn gyda phanel o fenywod yn unig, a dogfen am un o fenywod mwyaf blaengar Ewrop yr 20fed Ganrif, Louise Weiss.
Daw’r cyfan i’r sgrin mewn mis pan fyddwn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth a Sul y Mamau ar 11 Mawrth a phan mae trydedd gyfres o Parch yn dechrau nos Sul 4 Mawrth gyda Carys Eleri yn portreadu’r cymeriad hynod Myfanwy Elfed yn y gyfres a ysgrifennwyd gan yr awdur disglair, Dr Fflur Dafydd.
Dim hanner y cyfleoedd
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, “Mae bron hanner poblogaeth y byd yn fenywod ond dyw menywod Cymru na’r byd ddim yn cael hanner y cyfleoedd, y cydraddoldeb, y llais na’r llwyfan. Mae S4C yn falch o gynnig tymor o raglenni sy’n darlunio bywyd menywod heddiw, y frwydr am gyfiawnder cymdeithasol ac yn rhoi llwyfan i fenywod sydd yn ein herio a’n diddanu.”