Dathlu'n lloerig gyda chyhoeddi Bing Bong

13/05/2016

Categori: Cerddoriaeth, Chwaraeon, Newyddion

Mae’r Super Furry Animals yn cyhoeddi ei sengl gyntaf ers saith mlynedd heddiw.

I gydfynd gyda phencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc, mae’r Anifeiliaid Blewog yn rhyddhau Bing Bong i ddathlu fod Cymru wedi cyrraedd y rowndiau terfynol prif gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 1958. 

 

Yn ôl Gruff Rhys: ''Mae'r gân wedi ei ysbrydoli gan gyfuniad o'r idiom werin Bing Bong, elfenau o gerddi byr fyfyr R.Williams Parry ac ynganu Twiki y robot o'r gyfres wyddonias Americanaidd Buck Rodgers in the 25th Century - nid cân synhwyrol mohono, ond dathliad lloerig

 

Ysgrifennwyd y gân yn wreiddiol ar gyfer dathlu campau tîm peldroed dynion Cymru yng nghwpan Ewrop UEFA ym Mhortugal yn 2004 ond chwalodd gôl Yegor Titov obeithion y Cymry, a chalonau'r Anifeiliaid Blewog yn y gemau ail-gyfle a bu'r gân yn sefyll ers hynny.

 

Cynlluniwyd y clawr gân yr artist o Gaerdydd, Pete Fowler.

 

Mae hôll aelodau y Super Furry Animals yn bresennol ar y recordiad: Huw ‘Bunf’ Bunford (gitar/llais), Cian Ciarán (allweddellau/digidolyddion/llais), Dafydd Ieuan (drymiau/llais) Gruff Rhys (Allweddell Roland/llais digidol) a Guto Pryce (Y Bâs).

 

Dyma'r fideo i Bing Bong: