Dawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

24/01/2012

Categori: Celfyddydau

Dros y misoedd nesaf bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i sawl cynhyrchiad dawns gan gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Gyda sawl sioe yn cynnig cyfleoedd i ddod yn agosach at y gelfyddyd yn ogystal â’i bargen ddawns mae’n haws nag erioed i weld gwaith newydd gan oreuon byd dawns.

 

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno Rhaglen Ryngwladol ar 26 Ion ar lwyfan Donald Gordon. Mae’r cynhyrchiad wedi denu coreograffwyr amlycaf y maes i gyfrannu at waith a fydd yn gwthio 12 dawnswyr y cwmni i’r eithaf. Am ragor o fanylion cliciwch yma.

 

Mae cynhyrchiad Michael Flatley, Lord of the Dance yn dod i’r Ganolfan 6 - 11 Maw ac, yn ogystal, bydd cyfle i chi gymryd rhan yn Wythnos Ddysgu'r Ganolfan, wedi’i hysbrydoli gan themâu Celtaidd. Yna, o 16 - 17 Maw bydd dawnswyr Nederlands Dans Theater 2 yma gyda pheth o’r gwaith mwyaf dawnus a thrawiadol welwch chi unrhyw le yn y byd. Bydd sgwrs am ddim ar ôl y sioe hefyd. Manteisiwch ar y cyfle i gael gweld y cwmni tra gallwch chi.

 

Wedyn bydd Jasmin Vardimon Company a’r cynhyrchiad Yesterday yn y brif theatr ar 28 Maw. Mae’r cynhyrchiad yn dathlu degawd o uchafbwyntiau yn hanes y cwmni. Cyfuna goreograffi newydd grymus gyda fideo byw, athletiaeth beiddgar ac adegau o wir harddwch. Bydd hefyd sgwrs am ddim wedi’r sioe.

 

Gyda gwledd o gwmnïau dawns heb eu hail a chyfle i chi cael dod yn nes at y gelfyddyd, ewch draw i’r Ganolfan i gael blas ar waith rhyngwladol.