Deddf Addysg Gymraeg yn 'hanfodol' er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr

02/04/2019

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Fe fu ymgyrchwyr yn lansio cynllun ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg yn y Senedd heddiw, gan ddweud ei bod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn cyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr yn nodi bod angen i 70% o blant adael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2050. Mae dadansoddiad ystadegol y Gymdeithas yn dangos bod angen cynnydd o o leiaf 2.5% bob blwyddyn yng nghanran y plant saith mlwydd oed sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth. Mae hynny'n llawer uwch na'r twf bach sydd wedi bod ers 2010, sef 0.05% y flwyddyn.

 

Mae cynllun y Gymdeithas am Ddeddf Addysg Gymraeg yn cynnwys cynnig i ddisodli cynlluniau addysg Gymraeg presennol cynghorau gyda thargedau lleol di-droi'n-ôl, gyda nod, dros amser, mai'r Gymraeg fyddai'r norm fel cyfrwng addysgu ar bob lefel o addysg.

 

Ymysg y siaradwyr yn y digwyddiad yn y Senedd bydd cyn-brif Weithredwr CBAC Gareth Pierce a Rebecca Williams o undeb athrawon UCAC. Yn siarad cyn y digwyddiad, meddai Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith: "Pan ddaw hi at gyrraedd targedau addysg Gymraeg - does dim dwy waith amdani - mae strategaethau blaenorol y Llywodraeth wedi methu. Methodd y Llywodraeth â chyrraedd eu targedau addysg a gafodd eu gosod yn ôl yn 2010 o bell ffordd, os unrhyw beth rydyn ni'n mynd i'r cyfeiriad anghywir ar hyn o bryd. Mae argyfwng o ran cynllunio a recriwtio'r gweithlu. Mae'n gwbl amlwg felly bod angen ail-ystyried yn llwyr y systemau presennol er mwyn gwireddu gweledigaeth y miliwn o siaradwyr.

 

"Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn hollol realistig a chyraeddadwy, ond, er mwyn cyrraedd y nod mae'n hollol hanfodol bod y system addysg yn cyflawni twf cyson a sylweddol yng nghanran y rhai sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg. Yn hynny o beth, mae angen Deddf Addysg Gymraeg yn ogystal â newidiadau pellgyrhaeddol er mwyn recriwtio, hyfforddi a chadw athrawon sy'n addysgu drwy'r iaith."

 

Ychwanegodd Rebecca Williams o'r undeb athrawon UCAC:"Mae'n amlwg iawn erbyn hyn nad yw'r drefn bresennol o gynllunio ar gyfer addysg Gymraeg yn cydgordio â lefel ein huchelgais ar gyfer twf a gwelliant yn y system. Mae'r darpariaethau presennol yn rhy wan a thameidiog i fod yn effeithiol.

 

"Felly mae UCAC o'r farn bod yr amser wedi dod i gymryd y cam nesaf ar y llwybr – sef Deddf Addysg Gymraeg - gan adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes, er mwyn gweddnewid y system dros amser er budd dysgwyr Cymru."

 

Adolygu deddfwriaeth

 

Mae panel o arbenigwyr wedi bod yn adolygu deddfwriaeth addysg Gymraeg, sef y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Ar hyn o bryd, nid oes nod hirdymor yn y ddeddf, a'r cwbl mae'n ei wneud yw gofyn i awdurdodau lleol "wella'r broses o gynllunio" a "gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal". Mewn llythyr at grŵp trawsbleidiol yn y Cynulliad, cyfaddefodd y Gweinidog Addysg fod "materion yn y Ddeddf cynradd (sic) sydd angen sylw."

 

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi cymhwyster Cymraeg enghreifftiol newydd ar gyfer pob disgybl yn y digwyddiad, a bydd arbenigwyr addysg yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu peilot o gymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm newydd.