Deddf amaethyddiaeth yn agor y drws i effeithiau dinistriol ar gymunedau gwledig

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, gallai’r Ddeddf Amaethyddiaeth sydd newydd ei phasio agor y drws i effeithiau dinistriol ar ffermio a chymunedau gwledig os nad yw Llywodraeth Prydain yn gosod diogelu'r cyflenwad bwyd a lles teuluoedd ffermio a chymunedau gwledig wrth wraidd datblygu polisi.

Mae'r Ddeddf, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ddoe, yn amlinellu sut y bydd cefnogaeth i ffermwyr Lloegr yn cael ei darparu yn y dyfodol wrth i'r DU adael Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE, tra hefyd yn nodi deddfwriaeth sy'n ymwneud ag ystod eang o faterion amaethyddol a gwledig sy'n berthnasol i Gymru a'r DU - gan gynnwys rhoi pwerau dros dro i Weinidogion Cymru nes bod Bil Amaethyddiaeth Cymru yn cael ei gyflwyno.
 
Dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Rydym wedi croesawu bod y Ddeddf yn cynnwys yr angen am adroddiad i’w gyflwyno i’r senedd sy’n canolbwyntio ar yr effeithiau y gall cytundebau masnach y dyfodol gael ar amaethyddiaeth.
 
“Fodd bynnag, yn sicr does dim sy’n atal mewnforion bwyd is-safonol y bu ffermwyr, amgylcheddwyr, ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid a miliynau o aelodau’r cyhoedd yn lobïo drostynt.”
 
Dywedodd Mr Roberts fod ffocws y Ddeddf ar ‘daliadau cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus’ yn bryder mawr i aelodau trawsffiniol FUW sydd â thir yn Lloegr.
 
“Rydym wedi dadlau ers amser maith y dylid gosod yr amgylchedd a ffyniant economaidd ffermydd teuluol a chymunedau gwledig ar sail gyfartal o dan bolisïau’r dyfodol. Ond mae’n ymddangos mae ôl-ystyriaeth yw ffyniant economaidd ein cymunedau ffermio a gwledig ar y gorau, a ddim yn cael eu hystyried yn nhermau datblygu polisi Lloegr ar y gwaethaf.”
 
Dywedodd Mr Roberts, er bod pryderon tebyg yn bodoli yng Nghymru, ei fod yn gobeithio bod cydnabyddiaeth gynyddol o fewn Llywodraeth Cymru o'r angen i osod materion fel cyflogaeth wledig a lles economaidd teuluoedd ffermio a chymunedau gwledig wrth wraidd datblygu polisi - ochr yn ochr â'r blaenoriaethau amgylcheddol.
 
“Os na wneir hyn, byw mewn gobaith fydd anghenion economaidd ein cymunedau, a bydd unrhyw ddifrod a achosir gan bolisïau newydd sydd wedi’u cynllunio i sicrhau buddion amgylcheddol yn unig yn amhosib i’w atgyweirio” meddai.

 

Cefnogaeth uniongyrchol yn dod i ben yn raddol


 
Mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu cael gwared ar gefnogaeth uniongyrchol i ffermwyr Lloegr yn raddol rhwng 2021 a 2027, ac o ddiwedd 2024 byddant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cynllun Rheoli Tir Amgylcheddol newydd gyda'r nod o wella'r amgylchedd a darparu 'nwyddau cyhoeddus', megis amcanion aer glân a chadwraeth.
 
“Er gwaethaf ei holl wendidau, yn ôl y gyfraith, rhaid i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) gyflawni canlyniadau economaidd a chymdeithasol yn ogystal â buddion amgylcheddol.
 
“Mae'r Ddeddf Amaethyddiaeth yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu cefnogaeth yn Lloegr ar gyfer deg maes sy'n ymwneud yn bennaf â'r amgylchedd, ac er bod cynhyrchiant amaethyddol a pharch at gynhyrchu bwyd yn ymddangos yn y ddeddfwriaeth, nid yw'n ddim o gymharu â'r egwyddorion sy'n sail i'r PAC o ran amddiffyn incwm a chymunedau gwledig."
 
Dywedodd Mr Roberts fod yr esgeulustod hwn wedi clirio'r ffordd ar gyfer polisïau un dimensiwn peryglus a luniwyd heb fawr o sylw i les economaidd a chymdeithasol cymunedau gwledig, os o gwbl.
 
“Yn naturiol, rydym yn gobeithio na fydd unrhyw ran o’r DU yn cefnu ar ddegawdau o hen egwyddorion sydd â’r nod o gefnogi teuluoedd ffermio a chymunedau gwledig, ond rhaid ei gydnabod fel risg, ac rydyn ni’n parhau i annog Llywodraethau’r DU a Chymru i roi’r rhain wrth wraidd datblygiad polisi.”