Ymgyrch Yes Cymru yn annog pobl i brynu cân newydd Dewi Pws

16/10/2020

Categori: Cerddoriaeth, Gwleidyddiaeth, Hamdden, Newyddion

Mae'r ymgyrch dros Annibyniaeth i Gymru - Yes Cymru yn annog y cyhoedd i gefnogi’r ymgyrch i gael cân Dewi ‘Pws’ Morris Yes, Yes, Yes (Cymru) i siartiau iTunes.

Mae Adam Phillips o YesCymru yn galw ar bobl i lawrlwytho’r gân yr wythnos hon, gan ddechrau ar ddydd Gwener Hydref 16.

 

Dywedodd y cerddor Adam Phillips o Wrecsam: "Mae hyn yn ffordd hwyliog i bobl wneud rhywbeth dros annibyniaeth Cymru. Mae'r newyddion yn ddiweddar wedi bod yn eithaf digalon, ond gallai hyn ddod ag ychydig o hwyl i'r byd."

 

Dyfodol gwell

 

Maent yn annog pobl i brynu'r gân ar ITunes, "Gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn mynd i iTunes ac yn lawrlwytho'r gân. Mae'n gân hwyliog sy’n adlewyrchu optimistiaeth y mudiad annibyniaeth a'r dyfodol gwell y gall annibyniaeth ei gyflawni."

 

Gellir prynu'r gân yma gyda fideo hyrwyddo gan Dewi Pws i'w weld yma