Tinc Dylan Thomas-aidd i waith enillydd coron Caerffili
Categori: Eisteddfod yr Urdd, Newyddion

Iestyn Tyne, Aelwyd Coleg Meirion Dwyfor, Cylch Llŷn, Rhanbarth Eryri ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, gyda Gareth Evans-Jones, Aelwyd Unigol, Cylch Eilian, Rhanbarth Môn yn drydydd. Noddir seremoni’r coroni gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Yn ôl beirniaid cystadleuaeth y goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili a’r Cylch, mae tinc Dylan Thomas-aidd a Llwyd Owen-aidd i waith y llenor buddugol, Dylan Edwards, 19, sy’n dod o bentref Llandre, ger Aberystwyth.
Hanes noson yn Aberystwyth a geir yng ngwaith buddugol Dylan, a ddarlunnir drwy gyfrwng portread afieithus, dychmygus a barddonol o garfan o gymeriadau amrywiol a chofiadwy.
Dylan, a ysgrifennodd dan y ffug enw ‘Didion 1967’, oedd “llenor mwyaf crefftus y gystadleuaeth” yn ôl y beirniaid Sioned Williams a Manon Steffan Ross, ac fe “gydiodd ei waith o’r frawddeg gyntaf.”
Mae’r goron yn cael ei gwobrwyo am ysgrifennu’r darn neu ddarnau o ryddiaith gorau dros 4,000 o eiriau a ‘Brâd’ oedd thema’r gystadleuaeth eleni. Fe ddaeth 18 ymgais i law.
Meddai Manon Steffan Ros:
“Mae yna dinc Dylan Thomas-aidd a Llwyd Owen-aidd yma, yn sgil ansoddeiriau cyfansawdd dyfeisgar, arddull lenyddol hunanymwybodol, ac awyrgylch cyfoes, meddwol, swrrealaidd. Fel y ceir yn aml yng ngwaith y ddau awdur hynny, ceir yma ymdriniaeth o hiraeth a cholled o fewn stori fywiog, aml haenog, a'r ysgrifennu drwyddi draw yn hudol.
“Mae gan Dylan ddawn hefyd i greu deialog realistig ac i fynd o dan groen cymeriadau. Mae'n waith uchelgeisiol, hyderus ac mae Dylan yn llwyr haeddu ennill coron Eisteddfod yr Urdd.”
Mae Dylan, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Penweddig, ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd Liberal Arts yng Ngholeg King’s, Llundain.
Ei brif ddiddordeb yw ffilm a beirniadaeth ffilm a hoffai ddatblygu gyrfa yn y maes. Mae Dylan wedi ysgrifennu blogiau ac erthyglau am wyliau ffilm i Golwg a Golwg360 ac mae newydd ddychwelyd o Ŵyl Ffilm Cannes. Mae hefyd wedi’i ethol yn brif raglennydd Cymdeithas Ffilm Coleg King’s.
Mae Dylan eisoes wedi profi llwyddiant yn y byd llenyddol. Enillodd goron Ysgol Penweddig yn 2013 a Thlws Barddas yn 2012. Mae wedi ennill tri Thlws yr Ifanc mewn eisteddfodau lleol ac amryw o wobrau llenyddol gan yr Urdd. Bu hefyd yn aelod o gast Theatr Ieuenctid yr Urdd yn 2012 a 2014.