Actor yn croesawu fod yr Heddlu am ymchwilio i'r mater
Categori: Newyddion

Mae’r actor adnabyddus John Pierce Jones wedi croesawu'r datblygiad fod Heddlu De Cymru bellach am gymryd camau i ymchwilio i'r mater, fod un o'i swyddogion wedi ymddwyn yn ‘annerbyniol’ tuag at ei fab Iwan mewn gêm griced rhwng Morgannwg a Surrey.
Fel yr eglurodd John Pierce Jones, "Mi oedd yna ryw griw o hogiau yn yr eisteddle ac wedi bod yn taflu da da a mi ruthrodd yr heddlu yno, ac mi anwybyddodd un linelll o hogiau ond mynd i’r ail linell a phigo ar Iwan a’i dynnu allan. Mae'n rhaid i ni ofyn - pam aeth yr heddwas ar ôl Iwan, a phasio tri neu bedwar o blant eraill? Pam ddim gafael yn un o'i ffrindiau? Ai am ei fod o'n ddu?"
Ychwanegodd John, "Mi roedd Iwan yn ypset ofnadwy, ‘nes i gwyn i’r sarjant yn Stadiwm Swalec adeg hynny.Pam mynd amdano fo?’
"Mi oedd yna griw o Surrey yn anhygoel o feddw a fe wnaethon nhw ddim byd am hynny. Mae’r holl arwyddion yn pwyntio at hiliaeth o ryw fath, mi ydan ni yn dueddol o wadu hynny yng Nghymru."
Gwaith gwych
Ond mae John Pierce Jones yn derbyn fod mwyafrif o blismyn yn gwneud gwaith gwych ond fod un heddwas yn gallu difetha hynny i’r gweddill, meddai, "Beth sy’n ddrwg am hyn ydi bod byw yn Grangetown sy’n hynod o aml-diwyllannol ac mae’r heddweision yno yn ardderchog ac mae un heddwas yn gallu gwneud y drwg i’r lleill i gyd. Dwi’n gyn-blismon ac mae’r mwyafrif llethol yn gwneud gwaith ardderchog dwi’n siwr."
Ychwanegodd, "Dwi’n falch iawn fod yr Heddlu wedi derbyn fod cwyn wedi ei wneud a’u bod yn cymryd camau i ymchwilio i’r mater."
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net