Pafiliwn yn cau am gyfnod
Categori: Arian a Busnes, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Mae Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn cau am gyfnod oherwydd mae'r cwmni oedd yn ei gynnal, Pafiliwn Cyf, wedi dod i ben.
Y rheswm yw'r hinsawdd economaidd a llai o ddefnydd.
Ond mae cadeirydd y cwmni, John Watkin, wedi dweud na fydd y pafiliwn yn cau'n derfynol.
Dywedodd Elin Jones AC: "Hwn yw'r trydydd sefydliad elusennol i fynd i'r wal yng Ngheredigion ers chwe mis.
'Trist iawn'
"Mae'n drist iawn."
Mae disgwyl i'r Ŵyl Gerdd Dant gael ei chynnal yno ym mis Tachwedd.
Dywedodd Mr Watkin: "Mae'r banc wedi bod yn gwasgu arnon ni i ad-dalu £80,000 ... dy'n ni ddim yn gallu talu dyledion a dy'n ni ddim eisie bod yn yr un picil mewn 18 mis.
"Do's dim colledion mawr ond y ffaith yw mae'r defnydd o'r pafilwn ers blwyddyn wedi gostwng yn syfrdanol.
"Ro'dd y tair blynedd gynta' yn dda iawn ond erbyn hyn, do's dim staff amser llawn i redeg y pafiliwn."
Fe fydd y brydles yn cael ei rhoi ar werth ac mae'r adeilad ei hun yn eiddo i Ymddiriedolaeth Eisteddfodau Pantyfedwen.
£2.3m
Agorodd y pafiliwn yn 2007 ar ôl i Gyngor Ceredigion a Llywodraeth Cymru ei gefnogi.
Fe gafodd grantiau o £2.3m, yn benna' oherwydd arian Amcan Un.
Mae Eisteddfodau Sir yr Urdd, gweithgareddau Ffermwyr Ifanc, cystadleuaeth Cân i Gymru, Gŵyl Ddathlu 50 Cymdeithas yr Iaith ac arddangosfeydd wedi eu cynnal yno.
Dywedodd Ms Jones: "Dwi'n edmygu gwaith arwrol y rhai adferodd y lle ac sy' wedi ei gynnal. Mae wedi bod yn arwrol ar adeg o gyni economaidd."
Dywedodd Mr Watkin: "Ers chwe mis do's dim digwyddiade mawr ar gyfer y flwyddyn nesa'.
"Mae'r adnodd yn ffantastig ond mae llai o arian yn cael ei gylchdroi yn y parthe hyn ar gyfer digwyddiade mawr.
"Yn y cyfamser, gobeithio y bydd rhywun yn prynu'r brydles."