"Y Gymraeg ddim yn rhan o ffabrig cymdeithasol y brifddinas"

25/08/2015

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae Cyngor Caerdydd wedi honni nad yw’r Gymraeg yn rhan o ‘ffabrig cymdeithasol’ y brifddinas mewn llythyr at ymgyrchwyr iaith am ei bolisi cynllunio.

 

Mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, ysgrifennodd Arweinydd Cyngor Caerdydd Phil Bale, sydd hefyd yn gyfrifol am gynllunio yn y ddinas: “... ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, daw’r ymateb hwn i’r casgliad nad yw’r defnydd o’r Gymraeg yn rhan o ffabrig cymdeithasol, yn unol â chanllawiau Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu nad ystyrir bod cynigion datblygu a nodir yn y Cynllun yn effeithio’n faterol ar gydbwysedd ieithyddol cymunedau ledled Caerdydd, ar draul y defnydd o’r iaith. O ganlyniad, rydw i ar ddeall nad ystyrir unrhyw bolisiau penodol yn angenrheidiol yn y Cynllun i fynd i’r afael â buddiannau penodol yr iaith Gymraeg.”

 

Honiad hurt

 

Mewn llythyr yn ymateb i ohebiaeth gan arolygiaeth gynllunio sy’n ystyried Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Caerdydd, ysgrifenna Carl Morris, Cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, “Mae’n rhaid dweud bod yr honiad yn un hurt ac yn gwbl anwybodus, ac yn amlwg yn codi cwestiynau sydd angen eu hateb o ran agwedd a pholisi’r awdurdod a’i swyddogion. Nid ydym o’r farn bod yr honiad yn adlewyrchu cefnogaeth arweinydd presennol y Cyngor i’r iaith, ond yn hytrach anwybodaeth swyddogion yr adran gynllunio. Gofynnwn i chi fynnu bod y Sir yn ei chynllun datblygu yn ystyried y Gymraeg o ran ei statws, y gofynion o ran ysgolion newydd a darpariaeth addysg, a’i lle yn ein cymunedau."

 

Mae Carl Morris yn nodi, “Ceir nifer o ardaloedd yn y ddinas lle mae'r Gymraeg yn gryf, ond credwn y dylid ystyried dyhead pobl y ddinas i’r Gymraeg ddod yn gryfach ar lawr gwlad yn ogystal. Adlewyrchir cefnogaeth pobl ledled y ddinas yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg."

 

Enwau uniaith Saesneg

 

Credai Carl Morris fod enwau uniaith Saesneg yn tanseilio statws y Gymraeg, “Byddwch yn ymwybodol bod nifer o ddatblygiadau wedi eu henwi yn uniaith Saesneg yn y ddinas dros y blynyddoedd – o “Assembly Square” i “Central Square”. Mae enwi datblygiadau preifat yn uniaith Saesneg yn tanseilio statws a defnydd yr iaith."

 

Ychwanegodd, “Felly, rydym yn galw arnoch chi i wrthod cynnig Cyngor Caerdydd o ran geiriad y Cynllun Datblygu Lleol mewn perthynas â’r Gymraeg. Byddwn yn pwyso ar y Cyngor i fabwysiadu newidiadau i’r cynllun datblygu ynghyd ag atodlen iddo sy’n amlinellu polisi ynghylch cynllunio a’r iaith sy’n llawer mwy cynhwysfawr ac sydd â’r bwriad o gefnogi twf yr iaith yn ein prifddinas.”

 

Bydd swyddogion lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd ag arweinydd y Cyngor Phil Bale i drafod materion cynllunio ar ddiwedd mis Medi.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru