Ryseitiau ar gyfer y Nadolig - Y twrci rhost perffaith
Categori: Bwyd

Y twrci rhost perffaith
Digon i 8-10
Cynhwysion
1 twrci yn pwyso 10-12lb
6L o ddwr
150g halen mor
1 oren, wedi’i dorri’n gwarteri
12 clôf
2 seren anise
1 darn o sinsir ffres
110g mêl clir
2 llond llaw o teim ffres
1 winwns, wedi’i dorri’n gwarteri
125g menyn heb ei halltu
6 deilen llawryf
Dull
Golchwch y twrci tu fewn a thu allan a’i bwyso cyn ei rhoi i fwced neu gynhwysydd digon mawr i’w ddal gyda 6 litr o ddwr.
Twymwch 2 litr o’r dwr ynghyd â’r speisys, mêl, halen a 4 deilen llawryf tan bod yr halen a’r mêl wedi toddi. Gadewch i oeri cyn ychwanegu gweddill y dwr, orennau a’r teim ffres a’i arllwys dros y twrci. Rhowch glawr ar ei ben a gadewch yn yr oergell neu man oer am 24-48 awr. Pan rydych yn barod i’w goginio golchwch y twrci tu fewn a thu allan a sychwch yn drwyadl.
Cynheswch y ffwrn i 190ºC/ fan 170ºC/ nwy 5.
Rhowch bupur yng ngheudod y twrci gyda’r winwns, teim a 2 deilen llawryf. Taenwch y menyn dros yr aderyn i gyd gan wneud yn siŵr eich bod yn gorchuddio’r coesau, yna rhowch bupur dros yr aderyn yn ogystal.
Gosodwch y twrci (brest i lawr) ar drybedd mewn tun rhostio a gorchuddiwch y tun gyda darn mawr o ffoil a’i ddiogelu’n ofalus o dan ymyl y tun. Coginiwch yr aderyn am 3 awr 20 munud gan ei droi'r ffordd gywir hanner ffordd drwy’r coginio. ¾ awr cyn gorffen coginio tynnwch y ffoil. Cofiwch iro’r twrci gyda’i sudd drwy gydol y coginio.
I sicrhau fod y twrci wedi’i goginio, rhowch gigwain drwy ddarn mwyaf trwchus y glun; os oes suddion pinc yn rhedeg, rhowch y twrci yn ôl yn y ffwrn am chwarter awr arall a’i brofi unwaith eto. Pan fo’r suddion yn rhedeg yn glir, yna mae’r twrci wedi’i goginio.
Tynnwch y twrci rhost o’r ffwrn a’i godi’n ofalus o’r tun a’i osod ar fwrdd gan ofalu fod yr holl sudd yn cael ei gadw yn y tun rhostio. Rhowch y twrci i orffwys mewn man cynnes am 30 - 45 munud - bydd hyn yn sicrhau fod y cig yn ymlacio a bydd y twrci’n dyner ac yn flasus ac yn haws i’w dorri.
Ryseitiau gan - Nerys Howell Ymgynghoriaeth Bwyd