Lle’r Fenyw
Categori: Addysg, Arian a Busnes, Hyfforddiant / Cyrsiau, Newyddion

Canfyddiadau allweddol astudiaeth o rolau menywod yng ngweithlu Cymru
Fel rhan o’n gwaith i gefnogi datblygiad effeithiol menywod yn y gweithlu, rydym wedi comisiynu ein gwaith ymchwil mwyaf sylweddol mewn degawd.
Mae’r astudiaeth wedi helpu i nodi’r ffactorau sy’n effeithio ar allu menywod i gael mynediad i’r gweithle, parhau i weithio a symud ymlaen yn eu gyrfa. Mae’r canfyddiadau’n rhoi cyfle i Chwarae Teg, y llywodraeth, diwydiant a’r byd academaidd adolygu arferion cyfredol, datblygu polisïau ac ystyried deddfwriaeth i herio’r rhwystrau hyn er mwyn sicrhau bod menywod yn gallu parhau i ddatblygu a chamu ymlaen yn gadarnhaol yn economi Cymru.
Daeth pum maes allweddol i’r amlwg yn sgil y gwaith ymchwil:
-
Menywod yn y gweithlu
-
Cydraddoldeb rhywiol yn y gweithle
-
Sgiliau a Chynnydd yn y gwaith
-
Cydbwyso gwaith a gofal
-
Mynd i’r afael â chydraddoldeb rhywiol
Ewch i wefan Chwarae Teg am adroddiadau llawn
Ffynhonnell: Gwefan Chwarae Teg