Mudiad yn galw am addewid dros gyllideb S4C

27/10/2015

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Huw Stephens yn siarad dros bwysigrwydd S4C

Dylai pobl ddisgwyl i'r Ceidwadwyr gadw at addewid maniffesto i beidio â thorri rhagor o gyllideb S4C, ac felly nawr yw'r amser i drafod ehangu'r darlledwr, yn ôl ymgyrchwyr iaith a fu’n lansio’r ymgyrch i ddiogelu cyllideb S4C yn San Steffan heddiw. 

 

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfleu'r neges wrth Aelodau Seneddol mewn digwyddiad yn San Steffan, lle bydd y troellwr disgiau Huw Stephens, yr aelod seneddol David Davies  a'r gantores Casi Wyn yn siarad am bwysigrwydd y sianel i'r Gymraeg. 

 

Yn eu maniffesto cyn etholiadau San Steffan eleni, addawodd y Ceidwadwyr Cymreig i 'ddiogelu ariannu' S4C a datganodd yr Ysgrifennydd Diwylliant a'r Ganghellor ym mis Gorffennaf eleni y bydd y Llywodraeth yn gwneud yn iawn am unrhyw doriadau pellach a ddaw o law'r BBC. Mae ariannu o goffrau’r Llywodraeth ar gyfer S4C wedi cael ei gwtogi o oddeutu £93 miliwn ers 2010 i lawr i £6.8 miliwn y flwyddyn.  

 

Bydd y mudiad iaith hefyd yn lansio papur sy'n amlinellu model ar gyfer darlledwr aml-lwyfan Cymraeg newydd er mwyn ehangu defnydd y Gymraeg ymysg pobl ifanc. Mae'r mudiad iaith wedi argymell codi cannoedd o filiynau o bunnau drwy dreth newydd - ar hysbysebion a darlledwyr preifat - er mwyn ehangu darlledu cyhoeddus. 

 

Dywedodd Curon Wyn Davies, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, "Ni ddylai fod rhaid poeni am sefyllfa ariannol S4C, gan fod ymrwymiad pendant ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn yr etholiadau eleni i beidio â thorri'r gyllideb eto. Byddai unrhyw dro-pedol ar yr ymrwymiad clir hwnnw yn anfaddeuol, ac yn sicr o greu problemau enbyd i'r blaid Geidwadol yn etholiadau'r Cynulliad. Yn lle bod yn amddiffynnol felly, mae'n rhaid edrych ar y potensial i ehangu cylch gwaith y darlledwr, cryfhau ei sefyllfa ariannol, a'i moderneiddio ar gyfer oes pan fo'r ffin rhwng sianel deledu draddodiadol a’r we yn brysur ddiflannu."

 

"Dros y degawdau diwethaf, tra buodd twf aruthrol yn nifer y sianeli teledu a gorsafoedd radio Saesneg eu hiaith, mae’r gwasanaethau Cymraeg wedi aros yn eu hunfan, gydag un sianel deledu, un orsaf radio, a gwasanaethau eraill sy’n eilradd o gymharu â’r gwasanaethau Saesneg cyfatebol.

 

Angen gwasanaeth Cymraeg newydd

 

Ychwanegodd, ‘Yn aml, beirniadir S4C a Radio Cymru am geisio, a methu, plesio'r holl gynulleidfa Gymraeg. Prin fod modd gwadu bod newidiadau enfawr yn y ffordd y mae cynulleidfaoedd, yn enwedig pobl ifanc, yn gwylio ac yn gwrando ar gynnyrch cyfryngol. Mae patrymau gwylio wedi newid, ac yn parhau i newid ar gyfradd aruthrol. Mae’n bryd felly am wasanaeth Cymraeg newydd sydd wedi ei gynllunio fel endid aml-lwyfan o’r dechrau'n deg, er mwyn symud y Gymraeg ymlaen." 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru