Ryseitiau ar gyfer y Nadolig - Gwin Poeth Sbeislyd
Categori: Bwyd

Gwin Poeth Sbeislyd
Cynhwysion
700ml o ddŵr
110g siwgr brown
1 potel o win coch
1 oren
1 lemwn
1 llawryf
6 cardamom wedi’u malu
6 clôf
1 seren anise
1 ffon sinamon
Dull
Rhowch y dŵr a’r siwgr mewn sosban mawr a toddwch y siwgr dros wres cymhedrol. Clymwch y cardamom, clôfs, seren anise a’r llawryf mewn mwslin ac ychwanegwch i’r dwr gyda’r ffon sinamon a gadewch i fwydo am 10 munud.
Tynnwch y croen oddi ar y ffrwythau gan osgoi y gwyn ac ychwanegwch i’r dŵr. Arllwyswch y gwin a gadewch i dwymo yn raddol, heb ferwi, am tua 40 munud.
Torrwch y ffrwythau yn ddarnau ac ychwanegwch i’r gwin cyn ei weini, gyda 150ml o fodca neu brandi os dymunwch.
Mwynhewch
Ryseitiau gan - Nerys Howell Ymgynghoriaeth Bwyd