Holi 'Dolig gyda Tudur Owen

23/12/2015

Categori: Celfyddydau, Hamdden

Fe wnaeth Lleol.cymru holi Tudur Owen am ei arferion Nadoligaidd sy’n amrywio o'i hoff gêm Nadoligaidd i’w anrheg gwaethaf. 

 

Mae Tudur Owen yn gomediwr poblogaidd ac yn gyflwynydd profiadol ar S4C a Radio Cymru ac fe roedd buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr wedi plesio'r comediwr. Dyma gipolwg ar Nadolig Tudur: 

 

 

Lle fyddi di dros Dolig?

Adra yn fy nhŷ fy hun, rhywle rhwng y soffa, y bwrdd bwyd a’r toilet. 

 

Pwy fydd o amgylch y bwrdd?

Y wraig a’r plant ac aelodau eraill o’r teulu sydd wedi methu cael cynnig gwell.

 

Hoff gem?

Helfa fawr y rimôt control

 

Hoff ffilm Nadoligaidd?

Elf. Dwi’n gwbod pob lein bellach - ‘He’s an angry Elf!'

 

Tradoddiad teuluol unigryw?

Siarad ar y ffon hefo’r teulu yn Awstralia bob bora ‘dolig a chofio fod nhw 12 awr o’n blaena ni ac wedi meddwi yn dwll.

 

Peth gorau am y Nadolig?

Cael yfad yn y bora heb deimlo’n euog.

 

Hoff ran o'r cinio?

Jyst cyn dechra buta pan dwi’n teimlo ar fy ngora (Gan wbod ‘na fyddai’n teimlo gystal am oleia wythnos).

 

Hoff gan Nadoligaidd?

Bruce Springsteen - Santa Claus is coming to town

 

Anrheg gorau i ti ei dderbyn?

Snare drum pan yn 9 oed. Oeddwn i’n cael drum newydd bob blwyddyn felly doedd gennai ddim kit llawn tan oeddwn i’n 14.

 

A'r gwaethaf…?

Beic chopper glas ail law. Hen un fy nghefnder oedd o, ac mi oeddwn i wedi bod yn ei reidio fo ers misoedd, ond mi benderfynodd Sion Corn ei roi o ar waelod fy ngwely beth bynnag.

 

Uchafbwynt 2015? 

 

Cymru yn curo Lloegr yn Twickenham a’i rhoi nhw allan o’u cwpan y byd eu hunain. Dwi’n dal i chwerthin bob fyddai’n meddwl am y chiban olaf yn cael ei chwythu.