Angen fframwaith gadarn i asesu'r Gymraeg ym maes cynllunio
Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae angen creu fframwaith cadarn a safonol er mwyn asesu’r effaith ar y Gymraeg yn y maes cynllunio, yn ol mudiad Dyfodol i’r Iaith.
Mae’r Mudiad yn teimlo fod rhaid cael fframwaith sy’n cynnig methodoleg gydnabyddedig, yn seiliedig ar arbenigedd ieithyddol a lleol, yn ogystal â chynllunwyr gwlad a thref.
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi llunio sylwadau ar ganllawiau’r Nodyn Technegol 20: Cynllunio a’r Gymraeg, a ddiweddarwyd i gyd-fynd â’r gofynion newydd mewn perthynas â’r Gymraeg.
Dywedodd Ruth Richards, Prif Weithredwr Dyfodol, “ Mae sefydlu methodoleg safonol yn allweddol os am adeiladu ar enillion y Bil Cynllunio. Byddwn yn tynnu sylw’r Llywodraeth at yr ymarfer da sy’n datblygu eisoes mewn perthynas â Chynllun Datblygu Gwynedd a Môn."
Asesiad arbenigol
Ychwanegodd Ruth Richards, "Yn yr achos hwn, cytunwyd i ail-gloriannu’r dystiolaeth o ran effaith y Gymraeg. Bydd Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn (sy’n cynnwys cynrychiolaeth o Ddyfodol i’r Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai) yn comisiynu asesiad arbenigol, annibynnol i’w chyflwyno fel rhan o’r broses ail-gloriannu. Gobeithiwn bydd y broses hon, a’r cydweithio’n sefydlu patrwm ac ymarfer da i’w mabwysiadu ar draws Gymru gyfan.”
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru