Gŵyl yn dathlu gwaith cawr y Sgrin fawr

28/04/2016

Categori: Celfyddydau, Hamdden, Newyddion

Bydd sinema Canolfan Pontio ym mis Mai yn cynnal gŵyl o ffilmiau i ddathlu gwaith un o gewri oesol y sgrin fawr, Andrei Tarkovsky.

Ychydig iawn o ffilmiau mae enwogrwydd Tarkovsky'n seiliedig arnyn nhw – saith mewn chwarter canrif. Ond roedd pob un ffilm yn anferthol, yn ddwys ac yn unigryw. Eu teitlau ydi Ivan's Childhood(1962), Andrei Rublev(1966), Solaris(1972),Mirror(1975), Stalker(1979), Nostalgia(1983) a The Sacrifice(1986) ac mi fydd y Sinema yn dangos i gyd dros gyfnod o saith diwrnod. 

 

Mae’r ffilmiau yn cynnig delweddau bythgofiadwy llawn prydferthwch naturiol fod y cyfarwyddwr Rwseg yma yn ceisio a llwyddo i ddyrchafu celf sinema mor uchel â llenyddiaeth, barddoniaeth a pheintio. 

 

Yr ysbryd a’r enaid

 

Mae'r ffilmiau'n ymdrin â phlentyndod a rhyfel, teulu a chartref, hiraeth a nostalgia, aberth ac achubiaeth, diwedd y byd, a bodolaeth ac ystyr yr ysbryd a'r enaid. 

 

Dywedodd Emyr Glyn Williams, Cydlynydd Sinema Pontio, “Roedd gan Tarkovsky weledigaeth gref, ac roedd ei dechneg, oedd yn bennaf yn ymwneud ag amser, yn galluogi yr artist yma i greu ffilmiau barddonol/breuddwydiol sydd wedi llwyddo i hudo a dylanwadu cenedlaethau o wneuthurwyr ffilm a chynulleidfaoedd ar draws y byd. 

 

“Os fyddai rhaid ceisio diffinio gwaith ‘Sant y Sinema’ yn gryno, teg fasai deud ei fod o'n ceisio dangos mor wyrthiol yw bodolaeth pob un person a thynnu sylw i bwysigrwydd y cysylltiad yna gyda'r byd naturiol sydd angen ar bob unigolyn.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru