Cyflwyno cadair a choron yr Urdd i drefnwyr yr ŵyl

Cafodd prif wobrau Eisteddfod yr Urdd, y gadair a’r goron, yn cael eu cyflwyno i drefnwyr yr ŵyl mewn digwyddiad arbennig yn Ysgol Gwynedd, Fflint neithiwr.

Mae’r gadair, sy’n cael ei rhoi i’r gerdd gaeth neu rydd orau, wedi ei chreu eleni gan ddefnyddio pren onnen yn bennaf, gyda stribedi o ddur yn cynrychioli afon Alun ac afon Dyfrdwy yn rhedeg lawr ei chefn a siâp Moel Famau i’w gweld ym mrig y gadair.

 

Mae logo’r Urdd wedi eu ffurfio allan o arian, copr coch a chopr wedi ei ocsideiddio a dylanwad pont drawiadol Sir y Fflint i’w weld yn glir.

 

Y saer coed Neil Wyn Jones sydd wedi creu’r gadair.  Mae Neil yn diwtor iaith Gymraeg gyda Phrifysgol Bangor a Choleg Cambria ac yn gwneud ei waith coed yn ystod gwyliau’r coleg neu ar benwythnosau.

 

Y cerflunydd a’r artist Andrew Coomber sydd wedi dylunio a chreu’r goron drawiadol eleni.  Caiff ei rhoi am ysgrifennu’r darn neu ddarnau o ryddiaith gorau dros 4,000 o eiriau. 

 

Mae’r goron, sydd wedi ei hysbrydoli gan Bont Sir y Fflint, wedi ei chreu allan o acrylig clir a dur gloyw, gyda rhai darnau o’r acrylig wedi eu lliwio yn las i gynrychioli’r afonydd a gwrdd i gynrychioli’r tir. 

 

Mae Neil Wyn Jones yn dod o’r Wirral ac yn dal i fyw yno.  Dywedodd, “Mae cynllun y gadair yn eithaf syml, ac yn adlewyrchu sut ydw i yn hoffi gweithio gyda phren.  Rwyf wedi defnyddio coed onnen ac ychydig o sycamor, gan ei chadw yn ysgafn a golau o ran ei golwg.

 

“Rwyf yn edrych ymlaen i’w gweld ar y llwyfan a beth sy’n braf am yr Urdd yw y gallaf fod yn siwr mai rhywun ifanc fydd yn ei hennill!”

 

Er fod Neil wedi ei fagu yn Wallasey yn y Wirral, mae yn siarad Cymraeg yn rhugl gan iddo benderfynu dysgu’r iaith pan drodd yn 40 oed.  Mae ei fam yn siarad Cymraeg, ac roedd ei dad yn dod o Ogledd Cymru, ond doedden nhw ddim yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd er iddyn nhw geisio siarad ychydig gyda’r plant.  

 

Dywedodd Andrew Coomber, “Mae gen i deulu yn Ninbych sy’n siarad Cymraeg ac mi oeddwn i yn meddwl ei bod yn bwysig cadw’r iaith yn y teulu.  Dwi’n dysgu Cymraeg rŵan ers 14 mlynedd, ac yn diwtor iaith gyda Phrifysgol Bangor a Choleg Cambria ers pedair.  Wrth ddysgu pobl eraill dwi wedi dysgu lot fy hun!”

 

Cafodd Andrew Coomber ei fagu yn Manceinion gan rieni Albanaidd.  Ond symudodd i Sir y Fflint yn yr 80au i sefydlu cwrs gradd celf a dylunio, ac yna y cwrs meistr, ym Mhrifysgol NEWI (Prifysgol Glyndŵr bellach).  Gadawodd yn 2002, gan ymgartrefu yn Ysgeifiog ger Treffynnon ble mae ei stiwdio heddiw.

 

Dyluniad abstract

 

Dywedodd Andrew Coomber, “Mi wnes i dderbyn y cynnig i wneud y goron gan mai mudiad ieuenctid yw’r Urdd, a theimlwn y byddwn yn gallu gwneud rhywbeth cyfoes, perthnasol i bobl ifanc.  Dyna pam y gwnes i greu dyluniad abstract a dwi’n hapus iawn mod i wedi llwyddo i greu rhywbeth mor wahanol."

 

“Doeddwn i ddim eisiau gwneud coron gyda band traddodiadol felly fe wnes i greu coron oedd ond yn cyffwrdd y pen – rhywbeth modern, gwahanol.  Mae’r dur yn rhoi ychydig o sglein iddi a rwyf wedi defnyddio siâp y gorwel o Lannau Merswy yn edrych draw am Fflint a ffordd groes.”

 

Mae Andrew wedi gwneud amryw o brosiectau diddorol yn y gorffennol, gan gynnwys cwpan cymun ar gyfer y Pab a gwobrau ar gyfer y gyfres deulu Krypton Factor nol yn yr 80au a’r 90au. 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru