Cymru'n derbyn mwy nag y mae'n dalu mewn i'r Undeb Ewropeaidd

24/05/2016

Categori: Arian a Busnes, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Mae adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw yn dangos bod Cymru’n derbyn £245 miliwn yn fwy gan yr Undeb Ewropeaidd nag y mae’n ei dalu i mewn. Roedd y budd net cyffredinol i Gymru tua £79 y pen yn 2014.

Cyhoeddir yr adroddiad, Wales and the EU Referendum: Estimating Wales’ Net Contribution to the European Union, gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd fel rhan o’i phrosiectau ymchwil parhaus ym maes cyllid cyhoeddus ac effaith refferendwm Ewrop yng Nghymru.

 

Yn ôl y papur briffio, £658m oedd cyfanswm y cyllid a dderbyniwyd yng Nghymru oddi wrth gyllideb yr UE yn 2014, tra bo cyfraniad Cymru i’r Undeb Ewropeaidd ar ôl cyfrif am gyfran o ad-daliad y DG yn £414m. Roedd y budd net hwn o £245m yn cyfateb i tua 0.4% o gynnyrch domestig gros yn 2014.

 

Mae’r gwaith yn cymharu’r hyn mae Cymru’n ei dderbyn oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn amcangyfrif o gyfraniad Cymru i gyllideb yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw’r ffigwr yma yn adlewyrchu’r ystyriaethau ehangach economaidd neu masnachol sydd ynglwm ȃ aelodaeth o’r Farchnad Sengl. Yn ôl y dadansoddiad yr Ymchwil, ceir gwahaniaeth sylweddol rhwng sefyllfa Cymru a gweddill Prydain yn nhermau ei chyfraniad net i’r UE.

 

Yn eu hadroddiad, canfu’r awduron fod y budd net i Gymru oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd  yn 2014 tua £245 miliwn. Roedd hyn yn cyfateb i tua 0.4% o gynnyrch domestig gros Cymru. Gwnaeth Prydain fel cyfanrwydd gyfraniad net o £9.8 biliwn yn yr un flwyddyn. Roedd y budd net i Gymru o’r Undeb Ewropeaidd yn cyfateb i tua £79 y pen yn 2014. Mae hyn yn cymharu â chyfraniad net o £151 y pen i’r DG fel cyfanrwydd.

 

Mae cost neu fudd aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd i gyllid cyhoeddus yn bwnc trafod allweddol cyn y refferendwm ar 23 Mehefin 2016. Mae gwahanol ddadleuon dros faint cyfraniad net Prydain i’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn ganolog i’r dadleuon a gyflwynwyd gan y ddau grŵp ymgyrchu dynodedig ar gyfer y refferendwm arfaethedig.

 

Cywirdeb

 

Mae cywirdeb rhai o’r honiadau ynghylch cyfraniad net y DG wedi’i herio dro ar ôl tro, yn enwedig mewn perthynas ag ad-daliad cyllideb y DG. Mae llawer hefyd wedi cydnabod bod y darlun yn wahanol yn y gwledydd unigol a rhanbarthau’r DG o’i gymharu â’r DG fel cyfanrwydd, yn enwedig o ystyried dimensiwn rhanbarthol cyfran sylweddol o gyllid yr UE.

 

Sefyllfa Cymru yn wahanol

 

Dywedodd un o awduron yr adroddiad, Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd: “Mae’r dadansoddiad yn dangos y potensial ar gyfer gwahaniaethau sylweddol o ran effaith ar wahanol rannau o’r DG pe baem yn tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd. Mae sefyllfa Cymru’n wahanol iawn i’r hyn a geir yn yr Alban a Lloegr gan ei bod yn fuddiolwr net, yn bennaf am fod Cymru’n derbyn cyllid sylweddol o raglenni rhanbarthol ac amaethyddol yr UE."

 

“Un ddadl sydd wedi’i chyflwyno gan nifer yw y gellid defnyddio arian a arbedir o gyfraniadau i gyllideb yr UE i gymryd lle cyllid o raglenni’r UE sy’n dod â budd i Gymru. Fodd bynnag nid oes unrhyw warant na fyddai unrhyw ofod cyllidol a fyddai’n cael ei greu drwy dynnu allan o’r UE yn cael ei ddefnyddio yn lle hynny ar flaenoriaethau eraill llywodraeth y DG fel toriadau treth neu leihau dyled.”

 

Effaith o bwys

 

Ychwanegodd Guto Ifan, hefyd o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, “Yn y ddadl ar y refferendwm sydd i ddod, mae angen cydnabyddiaeth a thrafodaeth ehangach ar sefyllfa benodol Cymru a’i pherthynas â’r Undeb Ewropeaidd.

 

“Y tu hwnt i fuddion economaidd ehangach a chostau aelodaeth o’r UE, mae sefyllfa Cymru fel buddiolwr net o’r Undeb Ewropeaidd yn golygu y gallai canlyniad y bleidlais gael effaith o bwys ar economi a chyllid cyhoeddus Cymru yn y dyfodol.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru