Darren yn dathlu'r deg

25/05/2016

Categori: Eisteddfod yr Urdd, Hamdden, Iaith, Newyddion

I nifer o blant siroedd Fflint a Wrecsam, Mistar Urdd yr ardal, yn llythrennol, yw Darren Morris, Swyddog Datblygu’r Urdd yn yr ardal. Gyda Sir y Fflint ar fin croesawu’r Eisteddfod i dir Ysgol Uwchradd y Fflint, mae ganddo ddau reswm arall dros ddathlu eleni.

“Dwi’n briod â’r Urdd yn Fflint a Wrecsam ac efo fy ngwraig Rachel ers 10 mlynedd eleni! Yn 2006 y cychwynnais weithio fel Swyddog Datblygu i’r Urdd yma. Dwi’n ffodus iawn bod fy ngwraig, Rachel yn gefnogol i’r holl waith rydym yn ei wneud yn yr ardal i hyrwyddo’r Gymraeg. Dydi hi a’r plant heb fy ngweld rhyw lawer dros y misoedd diwethaf wrth i ddyddiad y Steddfod agosáu,” eglura’r cymeriad llawn bywyd sy’n parhau â’r un brwdfrydedd dros yr Urdd a’r Gymraeg yn yr ardal ddegawd yn ddiweddarach.

 

Yn fab i rieni di-Gymraeg o Shotton, daeth tro ar fyd i fywyd Darren Morris wedi iddo adael yr ysgol a mentro i’w swydd gyntaf. Derbyniodd her gan reolwr gweithgareddau awyr agored Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ar y pryd, Huw ‘Jenks’ y byddai raid iddo wella’i Gymraeg llafar pe bai’n cael y cyfle i fod yn rhan o gynllun hyfforddai i ddysgu bod yn hyfforddwr awyr agored yn y Gwersyll.

 

I’r bachgen ifanc o Shotton oedd wedi derbyn ei addysg yn ysgolion Cymraeg Sir y Fflint, Ysgol Gynradd Croes Atti ac Ysgol Uwchradd Maes Garmon, Yr Wyddgrug, doedd siarad Cymraeg ar fuarth yr ysgol ddim yn cŵl yn 1998.

 

Gwella ei Gymraeg

 

Yn wahanol i’w frodyr hŷn, sydd ddim yn siarad Cymraeg, roedd penderfyniad Darren i wella’i Gymraeg a gweithio fel hyfforddwr awyr agored yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn yn dro pedol yn ei fywyd. Roedd y ffaith ei fod yn hoff o’i beint hefyd o gymorth, wrth i drigolion Llanuwchllyn sy’n ymweld â thafarn yr ‘Eagles’ yn y pentref, ei gynorthwyo i ymarfer ei Gymraeg yn y dafarn!

 

Chwe blynedd yn ddiweddarach, ac wedi blwyddyn yn gweithio fel Swyddog y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Argoed, cychwynnodd ei daith gyda’r Urdd yn Fflint a Wrecsam.

 

“Yn y blynyddoedd cynnar hynny, dim ond fi oedd yn gweithio i’r Urdd yn yr ardal,” eglura Darren. “Erbyn hyn, mae gennym ddau aelod o staff llawn amser a thri aelod rhan-amser, ac mae’r twf rydym wedi ei weld yn aruthrol!”

 

Nododd criw’r Urdd yn Fflint a Wrecsam bod 12,800 ‘cyswllt’ wedi bod gyda phlant a phobl ifanc y ddwy sir rhwng 2009 a 2010. Gall hyn olygu bod person ifanc wedi bod mewn sesiwn gelf a chrefft, wedi cymryd rhan mewn Eisteddfod Sir, wedi bod mewn Clwb Cinio Cymraeg ac wedi mynychu Gwersyll yr Urdd - cyfanswm o bedwar cyswllt.

 

“Rhwng 2015 a 2016, mae’r ‘cyswllt’ wedi treblu ers 2010. Daeth plant a phobl ifanc Fflint a Wrecsam i ‘gyswllt’ gydag aelodau o staff yr Urdd 42,000 o weithiau.

 

“Mae’n golygu ein bod wedi codi proffil y Gymraeg, wedi cynnig cyfleoedd trwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog i blant a phobl ifanc yr ardal ac wedi ymgyrraedd at fwy o ieuenctid yma yn yr ardal nag erioed o’r blaen. Mae rhan o’r twf yna oherwydd bod Eisteddfod yr Urdd yn dod i’r ardal, ond y rheswm pennaf yw oherwydd bod buddsoddiad wedi bod mewn staff i gyrraedd at bobl ifanc yr ardal.”

 

Un o’r sesiynau sydd wedi profi’n hynod boblogaidd yn yr ysgolion uwchradd di-Gymraeg o fewn y siroedd yw’r Clybiau Cinio Cymraeg. Sesiynau galw i mewn yw rhain sy’n cynnig awr o ddiddanwch a chyfle i gymdeithasu yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog.

 

“Y bwriad ydi rhoi cyfle i bobl ifanc glywed y Gymraeg o’u cwmpas mewn sefyllfa gymdeithasol anffurfiol, ymhell o strwythur addysgol arferol y dosbarth. Maen nhw wedi profi’n hynod o boblogaidd. Weithiau bydd sesiwn gwis yn y Clwb, dro arall Bingo, unrhyw beth sy’n codi proffil y Gymraeg ac yn cyflwyno ymwybyddiaeth o’r iaith i’r disgyblion.”

 

Mae 20 allan o’r 22 o ysgolion uwchradd yn Fflint a Wrecsam yn ymwneud â’r Urdd dros y blynyddoedd diwethaf. Bedair blynedd yn ôl dim ond dwy neu dair o ysgolion uwchradd y sir oedd â chyswllt cyson â’r Urdd.

 

Gwella’n sylweddol

 

“Dwi’n credu bod agwedd pobl yn yr ardal tuag at y Gymraeg wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae codi proffil a llwyddiant ein timau cenedlaethol ym maes rygbi a phêl droed yn help i ni. Mae mwy o ymdeimlad o falchder o fod yn Gymry erbyn hyn.

 

Yn ôl Darren: “Yma’n Fflint a Wrecsam rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gydag Adrannau Ieuenctid Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam. Ddeg mlynedd yn ôl doedd hynny ddim yn digwydd. Y pryder rŵan yw bod yr esgid yn gwasgu’n ariannol ledled Cymru, a phwy ŵyr lle gwnaiff y fwyell ddisgyn.”

 

Mae’r gŵr sydd wedi treulio oriau yn gwisgo siwt boeth Mistar Urdd a gosod trampolîn poblogaidd yr Urdd mewn digwyddiadau o bob math yng nghorneli o Gymru, yn edrych ymlaen yn arw at wythnos yr Eisteddfod.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru