Rhaid i'r ymgyrch Gadael anrhyddedu'r llw, yn ôl Leanne Wood
Categori: Addysg, Arian a Busnes, Gwleidyddiaeth, Iechyd, Newyddion

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi sicrhau fod y llw a wnaed i bobl Cymru gan yr Ymgyrch Gadael yn ystod ymgyrch refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei anrhydeddu.
Dywedodd Leanne Wood fod yr ymgyrch Gadael wedi sicrhau eu buddugoliaeth yn y refferendwm ar sail Llw a wnaed.
Ymhlith yr addewidion yr oedd yr Ymgyrch Gadael wedi’u gaddo oedd y byddai £490m y flwyddyn ar gael i Gymru, y gallwn ni ddewis ei wario ar y Gwasanaeth Iechyd. Rhoddwyd addewid y byddai cronfeydd strwythurol a chronfeydd amaethyddol yn cael eu gwarchod. Fe roeddynt hefyd yn addo y byddai cronfeydd fyddai o fudd i brifysgolion a sector gwyddoniaeth a thechnoleg Cymru yn cael eu gwarchod. Fe roeddynt hefyd yn dweud y byddai’r Deyrnas Gyfunol yn gallu rheoli ei ffiniau ond parhau i fasnachu gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Addo arian i'r gwasanaeth iechyd
Dywedodd Leanne Wood nad oedd y bleidlais i Adael yn bleidlais i ganoli mwy o bwerau yn San Steffan. “Fe ddywedwyd y buasai hyd at £490m y flwyddyn ar gael i Gymru ac y byddai modd i ni ddewis ei wario ar y gwasanaeth iechyd. Mae hwn yn swm o arian yn ychwanegol at yr hyn a ragfynegwyd fel arfer trwy ddiwygio fformiwla Barnett."
Ychwanegodd, “Amser a ddengys a gedwir at y Llw hon, ond bydd Plaid Cymru yn dal yr ymgyrch Gadael i gyfrif o ran ei Llw i Gymru ac yn brwydro i sicrhau y cedwir addewidion.”
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru