Anufudd-dod dinesig: “sbardun i’r Llywodraeth weithredu”

01/02/2014

Categori: Iaith

Bu ymgyrchwyr yn nodi dechrau cyfnod o brotestio dros y Gymraeg er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i newid ei bolisïau er mwyn sicrhau twf yn y Gymraeg yn Aberystwyth heddiw.

 

Bydd ymgyrchwyr yn dadorchuddio baneri ar bontydd ar hyd a lled Cymru dros y penwythnos - o Bont Menai i Bont Hafren - gan gychwyn ar Bont Trefechan yn Aberystwyth. Daw’r gyfres o ymgyrchoedd symbolaidd yma mewn adwaith i’r argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg a amlygwyd gan ganlyniadau’r Cyfrifiad dros flwyddyn yn ôl.

 

Ym mis Awst y llynedd, ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith at Carwyn Jones gan ofyn iddo wneud datganiad o fwriad i weithredu mewn chwe maes polisi erbyn 1af Chwefror 2014, megis cyflwyno addysg Gymraeg i bawb a threfn cynllunio newydd er budd yr iaith. Yn lle gweithredu yn y chwe maes hynny, ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai’n datblygu ap a gwefan newydd ac ymgyrch 5 y dydd i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg.

 

Wrth ddadorchuddio baner ar Bont Trefechan yn Aberystwyth, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  “Dros flwyddyn ers canlyniadau’r Cyfrifiad, mae’n hen bryd i’r Llywodraeth gyflwyno newidiadau polisi a fydd yn galluogi pawb yn ein gwlad i fyw yn Gymraeg. Heddiw, rydyn ni’n dechrau ar gyfnod o anufudd-dod, er mwyn, gan alw ar y Llywodraeth i weithredu o ddifrif mewn chwe maes penodol, er mwyn sicrhau bod yr iaith yn tyfu. Gydag ewyllys gwleidyddol gall bethau newid, ond hyd yn hyn mae ymateb y Llywodraeth wedi bod yn chwerthinllyd. Ni fydd gwefan ac ap newydd yn ymateb digonol i’r argyfwng - mae angen cymryd camau uchelgeisiol mewn meysydd addysg, cynllunio ac ariannu. Gobeithio y bydd ein protestiadau yn eu sbarduno i weithredu.”

 

“Mae Carwyn Jones ei hun wedi cydnabod ei ofidion am gyflwr yr iaith. Ond, yn hytrach na dangos arweiniad cadarnhaol, a mynd i’r afael â’r her sy’n wynebu’r Gymraeg, mae’r Llywodraeth Lafur yn parhau i lusgo eu traed. Er gwaethaf blwyddyn gron o lythyru, cynnal cyfarfodydd, cymryd rhan mewn cynadleddau a thrafodaethau di-ri gyda’r Llywodraeth, mae’n ymddangos i ni erbyn hyn, mai anufudd-dod dinesig a gweithredu cadarnhaol yw’r unig fodd o sicrhau bod Carwyn Jones a’r Llywodraeth yn gweithredu.”

 

Daw cefnogaeth i’r cyfnod newydd hwn o ymgyrchu gan aelodau adnabyddus bywyd sifil Cymru, gan gynnwys yr hanesydd ac ymgyrchydd Dr. Meredydd Evans, a ddywedodd mewn datganiad: “Mae’n hwyrach yn y dydd arnom nag erioed. Yn Hen ac yn Ifanc, trwy air a gweithred, cefnogwn y Gymdeithas yn y dyddiau argyfyngus hyn.”

 

Bydd y digwyddiadau ar Bont Menai; Pont Cysylltau, Wrecsam; Machynlleth; Aberteifi; Llandeilo a Phont Hafren yn ymgyrchoedd symbolaidd i lansio’r cyfnod newydd hwn o roi pwysau ar y Llywodraeth Lafur i weithredu ar frys dros y Gymraeg. 

 

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau: addysg Gymraeg i bawb; tegwch ariannol i'r Gymraeg; gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg; safonau iaith i greu hawliau clir; trefn cynllunio er budd ein Cymunedau; a’r Gymraeg yn greiddiol i ddatblygu cynaliadwy.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net 

 

Ffynhonnell: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg