O gell y cof - atgofion am Aberteifi

27/07/2016

Categori: Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Mae hunangofiant newydd a gyhoeddir yr wythnos hon gan gyn faer tref Aberteifi yn olrhain hanes Cymru a’r byd dros yr wythdeg mlynedd diwethaf, yn enwedig y newidiadau a fu yng nghefn gwlad Cymru ac yn arbennig ym myd amaeth.

O Gell y Cof  yw hunangofiant Tomos Melfydd George sydd wedi byw o fewn ardal de Ceredigion a gogledd Sir Benfro ar hyd ei oes ac yn gymeriad adnabyddus yn ei fro.

 

Bellach yn ei wythdegau daw ei atgofion yn ôl iddo yn ddwfn o gell ei gof.

 

‘Lawer gwaith, wrth roi tro yn ôl i gell y cof, yr wyf wedi meddwl rhoi'r ffidl yn y to ond wedyn wedi ail-gydio oherwydd yr holl newidiadau a'r holl ddarganfyddiadau sydd wedi cymryd lle yn ystod 'y mywyd i - o bosibl mwy nag yn unrhyw gyfnod yn y gorffennol.’ meddai Melfydd George.

 

Gwelodd Melfydd George gychwyn a diwedd yr Ail Ryfel Byd ac mae’n cofio bod yn ymwybodol o’r datblygiadau gwyddonol ar y pryd.

 

‘Canlyniad i hyn oedd tywallt y bomiau ar Hiroshima a Nagasaki. Dyma ddechrau ar y ras arfau ddieflig yn ein byd fel y mae dyn wedi parhau i ddangos yn ddiweddar yn Ffrainc - yn ymddwyn mor anynnol tuag at ei gyd-ddyn.’ meddai.

 

Bu T Melfydd George yn gweithio ar ffermydd ledled yr ardal yn ystod ei ieuenctid cyn mentro i Ganada ar ddechrau’r 1950au. Yn ddiweddarach bu’n gweithio i nifer o gwmnïau amaeth ac yn rhedeg busnes contractio amaethyddol llwyddiannus.

 

Dyn diwylliedig yw Melfydd, dyn y pethe. Mae’n bregethwr lleyg ac mae’r capel wedi chwarae rhan bwysig yn ei fywyd. Bu’n weithgar gyda Phlaid Cymru ers ymaelodi yn 21 oed hefyd yn ogystal a chael ei ethol fel cynghorydd bro a chynghorydd tref.

 

Cafodd ei ethol yn faer tref Aberteifi yn 2007 ar adeg trefnu dathliadau 900 mlwyddiant y dref.

 

 "Y rheswm pennaf dros ddwyn 'O Gell y Cof' allan ydy oherwydd y newidiadau yng nghefn gwlad Cymru ac yn arbennig ym myd amaeth." eglurodd Melfydd George.

 

Chwyldro

 

"Fe ddechreuodd y chwyldro yma gyda dyfodiad y Fforden Fach a'r Ffyrgi Lwyd. Bellach fe ddaeth brenhiniaeth y ceffyl gwedd i ben a chyda'i ddiflaniad ef y mae ein geirfa wedi newid hefyd. Roeddwn eisiau nodi sut roedd pethau ar ddechrau fy nghyfnodgwaith i a sut y datblygodd pethau i'r hyn yw heddi yn fy mywyd i ac ym mywyd fy nheulu amaethyddol i." meddai Melfydd.

 

"A chyda'r newidiadau hynny yn y ffordd o fyw daeth hefyd newid ar eirfa ein broydd. Daeth hefyd llawer i her arall a bu'n rhaid ceisio cymryd rhan i weithio ar wynebu'r heriau hynny." eglurodd ef.

 

Dywedodd Dafydd Wigley, "Cyfrol gan wladwr o’r iawn ryw, a gwladgarwr ymroddedig, sy’n ein hatgoffa am fywyd cefn gwlad a ddiflannodd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif."

 

Dyma ddyn ei filltir sgwar sy’n dweud ei ddweud yn ddifl ewyn-ar-dafod ar nifer o bynciau’r dydd, ac mae ei gariad at ei fro, ei wlad a’i iaith yn amlwg ym mhob agwedd o’i fywyd.

 

Bydd T Melfydd George yn llofnodi ei hunangofiant yn Sioe Aberteifi ar y 27ain o Orffennaf am 10 o’r gloch ac yna yn Awen Teifi am 11 o’r gloch ar ddydd Sadwrn y 30ain o Orffennaf.



Bydd hefyd yn llofnodi ei gyfrol ar stondin Y Lolfa faes yr Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau am 10 o’r gloch, dydd Iau y 4ydd o Awst.