Cystadleuaeth i ddylunio cerdyn 'Dolig i'r Prif Weinidog
Categori: Celfyddydau

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones, yn gwahodd plant ysgolion cynradd i fynd ati i ddylunio ei gerdyn Nadolig swyddogol eleni.
Maent yn gofyn i blant ym mlynyddoedd 3 a 4 gyflwyno eu cardiau dwyieithog erbyn dydd Gwener 11 Tachwedd 2016.
Bydd y cerdyn buddugol yn cael ei ddewis gan y Prif Weinidog a dyma fydd ei gerdyn Nadolig swyddogol. Bydd y cerdyn yn cael ei anfon i bob rhan o Gymru ac i bedwar ban byd.
Fe fydd yr arlunydd buddugol yn cael ei wahodd i'r Senedd i gwrdd â'r Prif Weinidog ac a fydd yn derbyn copi wedi'i lofnodi o'r cerdyn mewn ffrâm.
Arlunwyr ifanc addawol
Dywedodd y Prif Weinidog, "Rwy'n galw ar bob arlunydd ifanc addawol yng Nghymru i estyn am eu pensiliau lliw, eu creonau a'u pinnau ffelt i ddylunio fy ngherdyn Nadolig swyddogol."
Mae'n edrych yn ymlaen at weld y cardiau, meddai, "Rwy'n edrych ymlaen at weld pob un o gardiau'r plant - byddai gweld yr ymdrechion artistig yn fy rhoi yn hwyl yr ŵyl."
Ceir rhagor o fanylion yma
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru