Llenyddiaeth Cymru yn cyrraedd carreg filltir £1 miliwn ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron

27/03/2014

Categori: Llenyddiaeth, Newyddion

Ers 2004, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu dros £1 miliwn ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, gan alluogi 209 o awduron i ddatblygu eu gwaith mewn ystod o genres. Dros y ddegawd diwethaf, cafodd ffuglen, barddoniaeth, llenyddiaeth plant, llenyddiaeth i’r arddegau a gwaith ffeithiol greadigol eu cynnwys ymhlith yr Ysgoloriaethau llwyddiannus, ac yn 2011 gwobrwywyd nofelau graffig am y tro cyntaf.

 

Dengys llwyddiannau nodedig Ysgoloriaethau’r gorffennol megis Tair Rheol Anrhefn (Y Lolfa) gan Daniel Davies ac Afallon (Y Lolfa) gan Robat Gruffudd, ill dau yn enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen, bod y cynllun Ysgoloriaethau yn dwyn ffrwyth. Yn ogystal enillodd Tony Bianchi a Fflur Dafydd ill dau Y Fedal Ryddiaith am eu nofelau, sef Pryfeta (Y Lolfa) ac Atyniad (Y Lolfa). Enillodd Gwyneth Lewis Goron Eisteddfod 2012 am ei chadwyn o gerddi ar thema “Ynys.”

Mae dau ar hugain o awduron wedi derbyn Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2014. Mae’r Ysgoloriaethau, gwerth cyfanswm o £81,000, yn galluogi’r awduron i gymryd amser i ffwrdd o’u gwaith beunyddiol er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu creadigol, neu’n cefnogi costau teithio ac ymchwil. Yn ogystal â chefnogi awduron newydd, dyfarnwyd Ysgoloriaethau i nifer o awduron cyhoeddedig. Mae 11 o awduron eleni yn derbyn Ysgoloriaeth am y tro cyntaf.

 

Dywedodd Katie Gramich, Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru:  “Y flwyddyn hon, blwyddyn canmlwyddiant Dylan Thomas, gallwn lawenhau yn y ffaith bod gan Gymru o hyd gronfa o awduron hynod dalentog a dyfeisgar, sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg ac yn Saesneg, ac mewn amrywiaeth cyffrous o genres.”

 

Mae’r Panel Ysgoloriaethau’n falch iawn i gefnogi gwaith gan awduron newydd nad ydynt wedi cyhoeddi cyfrol o’u gwaith hyd yn hyn, yn ogystal â chefnogi awduron cyhoeddedig sy’n dymuno torri tir newydd.

 

Mae Mererid Hopwood wedi ennill Y Goron, Y Gadair a’r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genendlaethol. Ond mae yna fwlch ar ein silffoedd llyfrau, gan nad yw wedi cyhoeddi cyfrol o’i cherddi ei hun hyd yn hyn. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig yn caniatáu i Mererid gymryd amser i ffwrdd o’i gwaith academaidd er mwyn canolbwyntio ar ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth. Bwriad y bardd a’r newyddiadurwr Karen Owen ydy “chwilio’r chwe chyfandir” er mwyn dod o hyd i feirdd eraill a anwyd yr un flwyddyn â hi. Bydd yn cyfuno elfennau llyfr taith, anthropoleg a newyddiaduraeth, ynghyd â barddoniaeth.
Bydd darllen difyr yn ein disgwyl wrth i’r awdur a’r cyhoeddwr Robat Gruffudd olygu a rhoi trefn ar ei ddyddiaduron personol, a ysgrifenwyd dros gynod o hanner canrif a mwy. Bydd y cofnod personol hwn hefyd yn adlewyrchu cyfnod eithriadol yn hanes Cymru.

 

Bwriada Simon Brooks ddefnyddio ei gyfnod Ysgoloriaeth er mwyn cwblhau cyfrol yn edrych ar ymwneud lleiafrifoedd ethnig â’r diwylliant Cymraeg ei iaith.

 

O Arfon i’r India, bydd Ysgoloriaeth yn caniatáu i John Fraser Williams i ysgrifennu cyfrol ffeithiol greadigol, sy’n cynnwys hanes ei daid a’i nain, a’u rôl yn y Genhadaeth yn Mizoram. Bydd dyddiaduron ei nain Hannah yn rhan hanfodol o’r naratif.

 

Ymhlith yr awduron sydd wedi derbyn Ysgoloriaethau ar gyfer eu gwaith Saesneg mae: Euron Griffith, Mary-Ann Constantine, Samantha Wynne–Rhydderch, Tia Jones, Kaite O’Reilly a Robert Lewis.

 

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae cefnogi’r awdur ar bob cam o’i yrfa yn elfen graidd o waith Llenyddiaeth Cymru. Mae Ysgoloriaethau i Awduron yn caniatáu amser a chyfle i’r awduron ddatblygu eu hysgrifennu creadigol. Rydym yn ymfalchïo y bydd Ysgoloriaethau 2014 yn cefnogi nifer o awduron newydd, yn ogystal â rhai awduron profiadol.”

 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweinyddu’r Ysgoloriaethau i Awduron ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru. Nododd Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: Mae cynllun Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru yn arddangos ac yn gwobrwyo’r ysgrifennu cyfoes gorau heddiw. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch iawn i barhau i fuddsoddi mewn talent llenyddol newydd. Mae cefnogi a gwobrwyo cenhedlaeth newydd o ddoniau wrth graidd beth yr ydym yn ei gredu, ac mae’n rhoi esiampl o sut, gyda’n gilydd, gallwn gefnogi dawn llenyddol a dod â’i drysor at gynulleidfaoedd ehangach.”

 

Ffynhonnell: Gwefan Llenyddiaeth Cymru

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net