Rhyddhau ail record sengl Carcharorion

25/11/2016

Categori: Cerddoriaeth, Newyddion

Mae’r ddeuawd electronig Carcharorion yn rhyddhau ail EP heddiw ar label Ikatching.

Carcharorion yw Huw Cadwaladr a Gruff Pritchard o fand yr Ods o Gaerdydd. Fe wnaethant ryddhau eu EP cyntaf, ‘Hiraeth’ dan label Peski ar ddiwedd 2014, gan greu stamp unigryw wrth samplo gwaith a lleisiau Dr Meredydd Evans a Gerallt Lloyd Owen.

 

Ar gyfer yr ail EP, mae Carcharorion yn gwyro oddi wrth y samplo a chanolbwyntio ar gyfansoddiadau gwreiddiol. 

 

Yn ôl y cwmni recordiau, ‘Mae'r caneuon wedi datblygu yn bennaf drwy arbrofi gydag arddulliau techno atmosfferig a cherddoriaeth synth o'r 80au, ac wedi datblygu'n naturiol wrth eu perfformio'n fyw. Gwnaed ymdrech i ddefnyddio cymaint o offer ac effeithiau analog ag oedd yn bosib yn ystod y broses recordio, drwy ddechrau hefo grooveelectronig, cyn adeiladu haenau o percussion, effeithiau, a sub bass drostynt.’

 

Cydweithio

 

Ceir yma gydweithio gyda Heledd Watkins o HMS Morris ar y trac ‘Y Carcharorion’ a'r basydd dwbl Huw V Williams ar ‘Cawsom Wlad'. Cyfrannodd y cynhyrchwyr Chris Jenknis a Llion Robertson hefyd at sain y casgliad.

 

Mae'r gwaith celf wedi ei greu gan yr artist Ceredig ap Dafydd. 

 

Gellir prynu 'Carcharorion' yma, o’ch siopau lleol neu o’ch gwefannau cerddoriaeth arferol.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru