Holi 'Dolig gydag Gwion Lewis
Categori: Gwleidyddiaeth, Hamdden, Newyddion

Dyma ddechrau cyfres Holi 'Dolig sy'n mynd ati i holi pobl adnabyddus am y flwyddyn aeth heibio, eu dathliadau dros y ‘Dolig a’u cynlluniau i’r flwyddyn newydd, ac i gychwyn y gyfres mae Lleol.cymru wedi holi’r bargyfreithiwr adnabyddus a’r darlledydd, Gwion Lewis.
Beth oedd uchafbwynt y flwyddyn i chi? ac esboniwch pam?
Genedigaeth fy mab, Amig Ilar. O'r diwedd, mae gen i gwmni am 3 o'r gloch y bore wrth baratoi achosion llys.
Beth oedd isafbwynt y flwyddyn i chi? ac esboniwch pam?
Canlyniad y refferendwm. Enghraifft berffaith o wendid pennaf democratiaeth: mae gan bleidlais sydd wedi ei seilio ar ragfarn gymaint o werth â phleidlais wedi ei seilio ar reswm. Rydw i'n ei chael hi'n anodd dod i delerau â hynny.
Rhowch mewn brawddeg fyr, y flwyddyn 2016.
Blwyddyn flin, wrth-ddeallusol, amheus o lwyddiant ac arbenigedd yn hiraethu'n llipa am "Brydain" eilradd na ellir ei hail-greu.
Sut a lle ydych chi’n dathlu’r Nadolig?
Gyda'r teulu ehangach yn Sir Fôn bob blwyddyn. Mae'n anghyfreithlon cynnau tân glo yn Llundain oherwydd y llygredd, felly mae'n rhaid i mi ddychwelyd i Langefni i gael y profiad Nadoligaidd llawn!
Eich anrheg gorau erioed?
O ddifrif, y gêm Nintendo Super Mario Bros 3 pan oeddwn yn blentyn. Does yna ddim byd materol wedi rhoi gymaint o bleser i mi ers hynny.
Oes ganddoch draddodiad arbennig dros yr Wyl?
Dydw i ddim yn Babydd, ond ers blynyddoedd bellach, mi fyddai'n edrych ar y gwasanaeth hwyr o'r Fatican noswyl Nadolig ar sianel fach ddigon rhyfedd ar Sky o'r enw EWTN. Mae yna goeden Nadolig arbennig ar y sgwâr y tu allan i'r eglwys bob blwyddyn - pan wela' i'r torfeydd o'i chwmpas hi, rydw i'n gwybod ei bod hi'n 'Ddolig.
Hoff fwyd a diod dros yr Wyl?
Bob Nadolig, bydd fy chwaer yn gwneud teisen fanila enfawr, ddi-chwaeth wedi ei phobi mewn tun siâp mynydd. Uchafbwynt y Nadolig i mi, heb os - does yna'r fath beth â bod yn "rhy Nadoligaidd" yn fy marn i. Diod? Gwin coch o Ffrainc i mi bob tro.
Unrhyw addunedau blwyddyn newydd?
Bwyta llai o wyau Kinder Surprise. Bob tro wedi i mi orffen achos llys anodd, mae'n rhaid i mi fynd i'r siop agosaf i brynu un.
Unrhyw gynlliuniau arbennig ar gyfer flwyddyn nesaf?
Gwneud popeth o fewn fy ngallu i geisio rhwystro Brexit.