Cofnodi cyfoeth ein corsydd

28/07/2017

Categori: Amgylchedd, Llenyddiaeth, Newyddion

A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Corsydd ddydd Sul, mae swyddogion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn apelio ar bobl o bob cwr o Gymru i gyfrannu at gofnodi hanes diwylliannol corsydd - eu defnydd a’u harwyddocâd dros y canrifoedd.

Drwy gynllun “Cyfoeth Ein Corsydd” a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, yn ystod yr ugain mis nesaf y nod yw casglu a chofnodi atgofion ac arferion o’r modd y defnyddiwyd corsydd dros y blynyddoedd fel adnodd i wresogi, i greu golau, i adeiladu ac i wella iechyd.

 

Haf Roberts, swyddog y prosiect sy’n esbonio ymhellach.“ Mae ‘na gyfoeth anhygoel yn ein corsydd ni. Mae un metr o fawn yn gofnod o un fil o flynyddoedd ac felly’n gofnod pwysig o dyfiant a hinsawdd a defnydd hir dros yr oesau. Bu’n adnodd gwerthfawr i’n cymunedau ni ar hyd y canrifoedd - gellir olrhain torri mawn ar gyfer dibenion tanwydd yn ôl i’r oesoedd canol, defnyddid brwyn ar gyfer canhwyllau cyn bod unrhyw son am drydan ac yn ystod y Rhyfel Mawr, defnyddiwyd mwsogl i drin clwyfau miloedd o filwyr.

 

Yn Eryri, mae ‘na drysorau hynod wedi eu darganfod yn ein corsydd ni - Pair Arthog, sef bwced efydd yn dyddio o 1100CC a ddefnyddid fel blwch llwch ym Mhlas Nannau, tarian Moel Hebog sy’n dyddio yn ôl i tua 1000 CC, ac o’r Oes Haearn diweddar (50cc - 75OC), Tancard Trawsfynydd a wnaed o bren ywen.

 

Erbyn heddiw wrth gwrs, mae’n corsydd ni yn storfeydd carbon pwysig - maen nhw’n storio dŵr o ansawdd rhagorol ac yn adnodd naturiol i reoli llifogydd. Ond maen nhw hefyd yn gynefin i lu o blanhigion ac anifeiliaid megis migwyn, tegeirianau, gwlithys a gwiberod, gweision y neidr a mursennod.”

 

Adnodd gwerthfawr

 

Esbonia Richard Bellamy, CDL Cymru, “Mae’n treftadaeth naturiol yn adnodd gwerthfawr a, diolch i chwareuwyr y Loteri Cenedlaethol, mae grantiau CDL wedi helpu amddiffyn ystod anhygoel o dirweddau, cynefinoedd a rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid. Mae CDL yn falch iawn o gefnogi “Cyfoeth Ein Corsydd”, cynllun fydd yn  ysgogi diddordeb pobl yn y byd naturiol ac felly’n helpu nhw i’w warchod ar gyfer  cenedlaethau’r dyfodol.”

 

Bydd Haf ar gael ar stondin y Parc Cenedlaethol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar ddyddiau Iau a Gwener ac yn Sioe Meirion yn Nhywyn ar Awst 23ain i esbonio mwy am gorsydd a mawn ac i gasglu atgofion. “Fe wyddom ni fod  yna gofnod o gynaeafu mawn yn ardaloedd Cwm Cynllwyd ac Abergeirw tan yn lled ddiweddar ac felly rydan ni’n gobeithio fod gan bobl atgofion byw o gynaeafu mawn ac o’i ddefnyddio at wahanol ddibenion. Mi faswn i’n hynod o ddiolchgar o gael derbyn unrhyw fath o wybodaeth. Y bwriad yn y pen draw ydy mynd ag arddangosfa o gwmpas Cymru yn 2019 fel bod y genedl gyfan yn cael gweld adnodd mor bwysig a chyfoethog yw’n corsydd ni.”

 

I gyd-fynd â’r apêl, mae Haf wedi trefnu taith gerdded i Gors Erddreiniog ar Sadwrn olaf yr Eisteddfod. Cysylltwch â Haf yn Swyddfa’r Parc am fwy o fanylion (haf.roberts@eryri.llyw.cymru neu 01766 770274), neu galwch yn y stondin ar faes yr Eisteddfod.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru