A Oes Heddwch? yn cofio aberth Hedd Wyn

01/08/2017

Categori: Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Wener yma yn cofio aberth Hedd Wyn a’r genhedlaeth o fechgyn ifanc a gollwyd yn y Rhyfel Mawr ganrif yn ol, yn ystod y perfformiad agoriadol, A Oes Heddwch?

Mae’r prosiect cerddorol, dan arweiniad dau frawd sy’n adnabyddus yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg, Aled a Dafydd Hughes, sy’n aelodau o fand Cowbois Rhos Botwnnog, yn dod â nifer o genres ac arddulliau ynghyd, gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cydweithio gyda Chôr yr Eisteddfod sydd â 240 o aelodau ac sydd wedi bod yn ymarfer dros y gaeaf.

 

Un o uchafbwyntiau’r perfformiad yw Gorffwysgan arbennig, wedi’i chreu gan y cyfansoddwr arobryn sydd â’i wreiddiau ym Môn, Paul Mealor.  Comisiynwyd y gwaith yn arbennig ar gyfer y noson.

 

“Mae hanes Hedd Wyn yn adnabyddus i unrhyw un sydd wedi’i fagu yng Nghymru, ac mae’n anrhydedd mawr i gael bod yn rhan o’r gwaith hwn sy’n ei goffau drwy gerddoriaeth,” meddai Paul Mealor.

 

“Bwriad yr Orffwysgan yw cyfleu teimlad o heddwch, diamser, gan adlewyrchu na all rhyfel a thywyllwch drechu ein llenyddiaeth, ein celfyddyd na’r teimladau mwyaf ffyddlon, ond yn hytrach, bydd yr hyn sy’n bwysig i ni’n cryfhau dros amser gan ddod yn harddach ac yn fwy taer. 

 

“Roedd bywyd Hedd Wyn yn fyr, ond mae’i farddoniaeth wedi byw am ganrif a mwy.  Bwriad yr Orffwysgan yw ein helpu i gofio hynny ac i greu ennyd o orffwys wrth i ni gofio Hedd Wyn a’r holl ddynion ifanc a laddwyd yn y rhyfel erchyll.  Gadewch i’r clychau, y corganu a lleisiau’r plant gymryd drosodd a… chofiwch.

 

Rhan annatod o'n profiad fel Cymry

 

Ychwanegodd Grahame Davies, awdur y cerddi teimladwy sy’n gyfeiliant i gerddoriaeth Mealor, “Mae hanes Hedd Wyn yn rhan annatod o'n profiad fel Cymry, yn un o storïau mwyaf dirdynnol y Rhyfel Byd Cyntaf fel y cyfryw, ac yn symbol o golli cenhedlaeth o fechgyn ifanc.

 

“Yn ‘Gorffwysgan’, yr ydym wedi ceisio pwysleisio agweddau oesol hanes Hedd Wyn, gan wybod bod y profiad o alltudiaeth, dioddefaint a cholled yn dal – ysywaeth – yn rhy gyffredin heddiw.  O fewn strwythur elfennau’r Offeren draddodiadol, yr ydym wedi ceisio mynegi’r awydd am gyfiawnder, am ryddhad o adfyd, a’r hiraeth am heddwch. 

 

“Mae geiriau’r Sanctus yn ceisio cwestiynu rhai rhagdybiaethau cyffredin, ac yn awgrymu y gellir cyfuno grym a brawdgarwch ac y gall gwendid ymddangosiadol guddio grym anorchfygol.”

 

Yn ogystal ag erchylltra’r rhyfel, mae’r perfformiad, sydd wedi’i rannu’n bum rhan, yn cyffwrdd â bywyd gartref yma yng Nghymru a’r prynhawn tyngedfennol hwnnw yn Eisteddfod Penbedw, pan osodwyd gorchudd du dros Gadair yr Eisteddfod er parchus gof am y bardd ifanc.

 

Guto Dafydd sy’n gyfrifol am y cerddi sy’n cydblethu gyda cherddoriaeth Aled a Dafydd Hughes, ac ysbrydolwyd rhannau o’r gwaith gan gyfres o weithdai cymunedol ym Môn a Gwynedd.  Cyfarwyddwr artistig y noson yw Siwan Llynor.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru