Golwg newydd ar hanes Hedd Wyn

04/09/2017

Categori: Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Gan mlynedd wedi marwolaeth Hedd Wyn, y bardd o Drawsfynydd a dyfodd yn un o brif eiconau Cymru, bydd Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn yn olrhain ei hanes mewn rhaglen arbennig Hedd Wyn: Canrif o Gofio.

Darlledir y rhaglen ar S4C ar nos Fercher 6 Medi, sef can mlynedd yn union i’r diwrnod yr enillodd y bardd ei gadair am ei awdl i'r ‘Arwr’, yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917. 

 

Bydd y rhaglen yn dilyn hynt Hedd Wyn o ardal Trawsfynydd i Litherland ger Lerpwl, lle cafodd ei hyfforddi gan y fyddin; ac yna ymlaen i Fléchin yn Ffrainc lle anfonodd ei awdl i'r Eisteddfod; ac i ardal Ieper yng Ngwlad Belg lle bu farw.

 

"Mae hanes y bardd yn un pur gyfarwydd i'r Cymry bellach," meddai Ifor, "ond yn y rhaglen hon byddwn ni'n ceisio cyflwyno ambell fanylyn a lleoliad llai hysbys at sylw'r gynulleidfa; er enghraifft y tŷ yn Abercynon lle bu Hedd Wyn yn lletya wrth weithio am gyfnod mewn pwll glo, neu York Hall yn Lerpwl, lle byddai'r milwyr Cymraeg o wersyll Litherland yn cael eu diddanu gan Gymry'r ddinas."

 

Dros y ganrif a aeth heibio, mae Hedd Wyn wedi tyfu'n symbol ar gyfer cenhedlaeth gyfan o dalentau coll, ond bydd y rhaglen hefyd yn ceisio adnabod y dyn tu ôl i'r chwedl. Mewn cyfweliadau archif o hanner canrif yn ôl, cawn gyfarfod â rhai oedd yn adnabod Hedd Wyn yn bersonol, fel Enid ei chwaer fach, a Jini Owen ei gariad olaf: "Fues i’n ei ganlyn o am dair blynedd - Oedd o’n biti calon bod rhaid iddo fo fynd i’r fyddin o gwbwl, achos oedd o ddim yn ddyn i fynd i’r fyddin. Roedd ag ysbryd rhy addfwyn..."

 

Bydd sawl ymweliad hefyd â chartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn. Mae nai Hedd Wyn, Gerald Williams, wedi treulio'i oes yn dod â hanes ei ewythr yn fyw i'r miloedd o ymwelwyr sy'n galw bob blwyddyn yno. Ac yntau bellach yn 88 oed, fe wnaeth y penderfyniad anodd yn 2013 i werthu’r hen gartref i Barc Cenedlaethol Eryri, ar yr amod y basen nhw, fel yntau, yn "cadw'r drws yn 'gorad" i'r ymwelwyr.

 

Gyda chymorth gan Gronfa'r Loteri, mae'r Parc wedi gwario 2.8 miliwn yn diogelu'r hen ffermdy, gan addasu'r tai allan i gynnwys arddangosfa barhaol er cof am Hedd Wyn ac etifeddiaeth yr ardal yn gyffredinol. Mae'r rhaglen yn dilyn y broses honno - a phrofiad anodd i Gerald oedd gweld y dodrefn yn cael ei gario allan, cyn y gallai'r tŷ gael ei atgyweirio. 

 

"Mi oedd yn deimlad od pan aethon nhw a’r dodrefn o ‘ma… fel tynnu perfedd yr hen le ’ma i ffwrdd… dwi ’di cael fy magu yma a dyna dwi wedi ei weld ar hyd fy oes,” meddai Gerald.

 

Mae 95% o gynnwys y tŷ yn dyddio nôl i gyfnod Hedd Wyn a Hugh Hayley o San Clêr yw'r arbenigwr gafodd y cyfrifoldeb o adfer y dodrefn i'w gogoniant gynt. Gwelwn Ifor yn ymweld â gweithdy Hugh wrth iddo weithio ar y 'Gadair Ddu' ei hun. Gan fod Hedd Wyn wedi cael ei ladd cyn y gallai hawlio'r gadair honno, cafodd ei gorchuddio ar lwyfan yr Eisteddfod gan fantell ddu a byth ers hynny, mae'r ‘Gadair Ddu’ wedi dod yn eicon cenedlaethol. Fe gafodd ei cherfio gan ffoadur o wlad Belg, Eugeen van Fleteren, ac fel mae Hugh yn nodi, hon oedd ei gampwaith mwyaf, ac mae’r gadair wedi'i cherfio'n gain mewn pren derw sy’n gannoedd oed.

 

Tawelwch meddwl

 

Gyda'r gwaith ar y tŷ wedi'i gwblhau bellach, mae Gerald yn dawelach ei feddwl unwaith yn rhagor wrth eistedd eto wrth yr hen aelwyd, “Mae’r tân fel sa fo yn dweud ‘croeso dewch i fewn drwy’r drws’ – mae o’n sirioli’r lle i gyd. Pan ddechreuodd y dodrefn ddod yn ôl, bob dydd o ni’n dod yma, o ni’n cynhesu at y cartre’ nôl,” meddai.

 

Mae pobl yn ymweld unwaith eto â'r Ysgwrn, i weld y creiriau gan gynnwys y Gadair Ddu, ond "mae'n bwysig peidio colli golwg ar gerddi Hedd Wyn" meddai Ifor, a bydd y rhaglen yn rhoi sylw i sawl un, gan gynnwys ei gerdd enwocaf efallai, 'Rhyfel'. Clywn lais y bardd hefyd mewn nifer o lythyron dadlennol a ddyfynnir yn ystod y rhaglen, ac mae ei lythyr olaf yn arbennig o ddirdynnol.

 

“Mae 'na gyfuniad o dristwch ac optimistiaeth yn y llythyr yna, ond efallai dyna sut y dylwn ni ei gofio," meddai Ifor. "Gyda thristwch oherwydd y ffordd y buo’ fo farw gyda miloedd o’i gyfoedion, ond gydag optimistiaeth am fod ei gerddi a’i gartref yn dal yn fyw.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru