Dathlu ffotograffiaeth mewn gŵyl yn Aberystwyth

27/10/2017

Categori: Celfyddydau, Hamdden, Newyddion

Fe fydd gwyl ffotgraffiaeth LENS 2017 yn cael ei chynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth dddd Sadwrn nesaf.

O’i dyddiau cynnar fel digwyddiad i hyrwyddo casgliadau delweddau gweledol y Llyfrgell,  mae’r Ŵyl wedi tyfu a datblygu dros y ddegawd a fu i fod yn fforwm drafod bwysig i ffotograffwyr proffesiynol a lleug, ac yn gyfle i fwynhau cyflwyniadau gan rai o gewri’r lens.  

 

Ymhlith y siaradwyr yn yr Wyl yw ffotgraffwyr profiadol Richard Jones, Gerallt Llewelyn, Bernard Mitchell a Sebastian Bruno. 

 

Digwyddiad difyr

 

Dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Cenedlaethol: ‘Mae penwythnos Lens wastad yn ddigwyddiad difyr a phleserus i bawb sy’n ymddiddori mewn ffotograffiaeth. Rydym yn llwyddo i ddenu ffotograffwyr proffesiynol ac amatur a rheini sydd â diddordeb mewn hanes cymdeithasol. Mae’n siaradwyr blaenorol wedi cynnwys ffotograffwyr byd-enwog fel Phillip Jones-Griffiths a David Hurn.’"

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru