Geraint Løvgreen i wrthod talu ei ffi drwydded

Mae'r cerddor enwog Geraint Løvgreen wedi ymuno â'r boicot o'r ffi drwydded deledu er mwyn datganoli'r grymoedd dros ddarlledu i Gymru.

Ddechrau'r flwyddyn, dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y byddai hi ac aelodau eraill y mudiad yn gwrthod talu ei thrwydded oni bai bod y Llywodraeth yn rhoi'r cyfrifoldeb dros ddarlledu i'r Senedd ym Mae Caerdydd.  

 

Mae S4C wedi dioddef toriadau o 40% i'w gyllideb S4C ers 2010. Mae Euryn Ogwen Williams wedi bod yn cynnal adolygiad o'r sianel ac yn wedi bod yn casglu tystiolaeth tan ddiwedd fis diwethaf.   

 

Wrth esbonio ei resymau am ymuno â'r ymgyrch, dywedodd y canwr adnabyddus Geraint Lovgreen: "Mae'r Gymraeg a democratiaeth Cymru yn dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i gyfundrefn ddarlledu sy'n cael ei rheoli o San Steffan ar hyn o bryd. Mae'r ymosodiadau ar y Gymraeg a welwyd yn ddiweddar gan raglenni'r BBC, a’r sylw unllygeidiog Llundeinig a roddwyd i faterion fel ymgyrchoedd annibyniaeth yr Alban a Chatalwnia yn dangos mai propaganda Prydeinig yw’r hyn sy’n cael ei ddarlledu i ni yng Nghymru o ddydd i ddydd. Byddai rheoli ein cyfryngau ein hunain yng Nghymru yn rhoi cyfle i ni weld ein hunain a’r byd drwy lygaid Cymreig." 

 

Mae rhan fwyaf o bobl Cymru eisiau datganoli darlledu o San Steffan i Gymru, yn ôl arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, gyda 65% yn cefnogi dod â'r pwerau o Lundain i Senedd Cymru.  

 

Diffyg presenoldeb y Gymraeg

 

Ychwanegodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  “O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael ei wneud gan bobl Cymru.  Mae’n bryd datganoli darlledu.”   

“Mae sefyllfa ariannol ac annibyniaeth S4C yn hynod fregus. Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr: mae'r darlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar Loegr yn unig.“    

"Nawr yw'r amser i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn rheoli ein cyfryngau er lles yr iaith a holl gymunedau Cymru. Ac mae'r cyhoedd gyda ni."  

 

Dros yr Haf, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith ymchwil sy'n awgrymu y gallai fod dros £60 miliwn yn fwy ar gael ar gyfer darlledu cyhoeddus pe byddai grymoedd darlledu yn cael eu datganoli o Lundain i Gymru. 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru