Cynnydd Myfyrwyr Cyfrwng Cymraeg Mewn Addysg Uwch Yng Nghymru

Ar drothwy cynhadledd ryngwladol gyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae ffigurau newydd yn dangos fod cynnydd o 15% wedi bod yn y nifer o fyfyrwyr sy’n astudio rhan o’u cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhwng 2011/12 a 2012/13, sef blwyddyn academaidd weithredol gyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r data diweddaraf yn dangos fod y nifer o fyfyrwyr sy’n astudio rhyw elfen o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn sefydliadau addysg uwch Cymru wedi cynyddu o 4,850 i 5,568.
Cyhoeddir y ffigurau hyn ar noswyl Cynhadledd Ryngwladol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a fydd yn trafod y rhan sydd gan ieithoedd lleiafrifol i’w chwarae mewn addysg uwch.
Cynhelir y gynhadledd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o’r 1-3 Orffennaf 2014 ac mae’r prif siaradwyr yn cynnwys yr Athro Colin H. Williams o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Jasone Cenoz o Brifysgol Gwlad y Basg, Dr Jan Roukens, gynt o’r Comisiwn Ewropeaidd a’r Athro Durk Gorter o Ikerbasque sef Sefydliad Gwyddoniaeth Gwlad y Basg.
Yn ogystal â hyn, bydd nifer o baneli trafod amlddisgyblaethol yn rhan o’r gynhadledd lle bydd nifer o academyddion o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn trafod un o nifer o bynciau sydd yn ymwneud â’r defnydd o’r Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol eraill y fewn addysg uwch.
Bydd y gynhadledd hefyd yn croesawi Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones AC i dderbyniad ar nos Fawrth 1 Orffennaf 2014 a bydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw Lewis AC yn annerch y gynhadledd ar fore Mercher 2 Orffennaf 2014.
Meddai Andrew Green, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’r dadansoddiad cychwynnol hyn o’r data diweddaraf yn addawol iawn ac yn dangos fod y buddsoddiad sylweddol mae’r Coleg eisoes wedi ei wneud trwy ariannu yn agos i 100 o ddarlithwyr yn y Prifysgolion yn dechrau gweithio.
“Mae’r dadansoddiad hefyd yn dangos bod y nifer o fyfyrwyr sydd yn astudio 40 credyd y flwyddyn, sef traean o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu 5%.
“Bydd y ffigurau hyn yn siŵr o ysgogi trafodaeth frwd ymysg mynychwyr ein cynhadledd yfory ac edrychwn ymlaen at dridiau difyr yn gwrando ar amrywiol siaradwyr a thrafod amryfal bynciau.”
I weld rhaglen y gynhadledd cliciwch yma: http://www.colegcymraeg.ac.uk/en/media/main/pdfs/Llawlyfr-y-Gynhadledd-Ryngwladol.pdf
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net