Paentiad poblogaidd yn dychwelyd i'r Cymoedd

19/12/2017

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Mae un o baentiadau mwyaf poblogaidd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i’r Cymoedd.

Fe fydd paentiad Running Away with the Hairdresser gan yr artist Cymraeg Kevin Sinnott, yn dychwelyd i’w weld yn Studio18 Pontycymer tan 21 Ionawr 2018.

 

Mae’r paentiad ar fenthyg i’r oriel fel rhan o’u rhaglen ‘Reflections on a life in Painting’ yn edrych ar yrfa Kevin Sinnott ar achlysur ei ben-blwydd yn 70. Ymhlith y gweithiau eraill gan Sinnott mae’r paentiad modernaiddHectic Days, 1975 a’r darlun o fam yn Homework, 2017.

 

Ganwyd Kevin Sinnott yng Nghymru ac fe astudiodd yng Nghaerdydd, Caerloyw a Llundain cyn dychwelyd i fyw ym Mhen-y-bont. Yn ei waith mae’n trafod atgofion, emosiwn a phrofiadau yn hytrach na digwyddiadau penodol. Ysbrydolwyd y gwaith hwn gan baentiad cynharach o ŵr ifanc a alwyd yn syml yn Running Away.

 

Cyfle

 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Rydyn ni’n falch o’n hymrwymiad i hwyluso mynediad i’r casgliadau cenedlaethol i gymaint o bobl â phosibl ac i gefnogi cymunedau ar draws Cymru. Rwy’n gobeithio y bydd pobl Cwm Garw a Pen-y-bont yn manteisio ar y cyfle i weld un o weithiau mwyaf poblogaidd Cymru dros y 30mlynedd diwethaf.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru