Canfod trysor yn y gogledd ddwyrain

20/12/2017

Categori: Amgylchedd, Newyddion

Cyhoeddwyd heddiw gan Amgueddfa Cymru fod gwrthrychau Rhufeinig, Canoloesol ac Ôl-ganoloesol wedi dod i’r fei yn drysor yn ngogledd ddwyrain Cymru. Ymhlith y gwrthrychau yw Celc o geiniogau Rhufeinig o ardal Wrecsam a Modrwy bys aur o ardal Cilcain, Sir y Fflint.

Ymhlith y darganfyddiadau yw celc o geiniogau Rhufeinig sy’n dyddio i ddiwedd y ganrif gyntaf OC wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm ger Wrecsam ym mis Gorffennaf 2016.

 

Cafodd celc Esclys, sy’n cynnwys 82 o geiniogau arian Rhufeinig, ei gladdu mewn potyn o grochenwaith coch lleol, yn yr 80au OC siŵr o fod. Roedd tipyn o weithgarwch Rhufeinig yn yr ardal ar y pryd, gyda’r gaer fawr wedi’i sefydlu yn Deva (Caer) a’r safle creu crochenwaith milwrol gerllaw yn Holt.

 

Mae’r ceiniogau’n gymysgedd cyfoethog o fathiadau Gweriniaethol ac Imperialaidd, gan gynnwys Cesar, Mark Antony, Augustus (sef yr ymerawdwr cyntaf yn 27 CC), Nero (sy’n enwog am adael i Rufain losgi) a Vespasian, a gymerodd ran yn yr ymosodiad ar Brydain dan Claudius yn ystod y 40au OC. Mae dros hanner y ceiniogau’n dyddio o gyfnod y Weriniaeth Rufeinig, ac roedd rhai ohonynt cyn hyned â 150 o flynyddoedd oed adeg eu claddu.

 

Meddai Edward Besly, Niwmismatydd Amgueddfa Cymru: “Ar y pryd, roedd denarius (hen geiniog arian Rufeinig) tua chyflog diwrnod i lengfilwr, felly roedd yn swm sylweddol i’r perchennog. Tybed ai cynilion milwr oeddent, neu elw dyn person busnes lleol oedd yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau i’r fyddin Rufeinig?”.

 

Breichdlws arian 

 

Canfu George Borrill ddarn o gadwyn breichdlws arian Canoloesol cynnar yn ardal Henryd, Sir y Fflint, ym mis Awst 2016. Mae wedi’i greu o ddau ddarn o freichdlws Hiberno-Lychlynnaidd wedi’u hailgylchu o boptu dwy gadwyn o weiren Trichinopoli. Mae dau rybed arian crwm yn eu cau. Mae patrwm ‘trionglau gwrthwynebol/awrwydr â phelenni’ wedi’u pwnsio ar ochrau allanol y ddau ddarn, sef amrywiad o batrwm celc Cuerdale y 10fed ganrif.

 

Meddai Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil, yr Adran Hanes ac Archaeoleg: “Mae’r ffordd anarferol y gosodwyd y cadwynwaith Trichinopoli (plethiad weiren barhaus) rhwng y ddau blât arian yn ddihafal, a dyma’r enghraifft gyntaf o gadwynwaith Trichinopoli oes y Llychlynwyr i ddod i’r fei yng Nghymru. Nid yw’n glir beth oedd diben neu ddefnydd y gwrthrych. Mae’n bosibl bod y platiau breichdlws a ailgylchwyd yn fodd o gysylltu â chrogaddurn neu wregys yn hytrach nag yn rhan o fflangell? fel yr enghraifft a ddaeth i’r fei yng nghelc Trewhiddle y 9fed ganrif. Mae’r gwrthrych hwn yn dangos ochr arall i gylchrediad arian yn oes y Llychlynwyr, a gweithgarwch arfordirol Sir y Fflint.”

 

Modrwy arian oreurog 

 

Ym mis Medi 2014, canfu George Borrill fodrwy addurnol arian goreurog o’r 13eg neu’r 14eg ganrif yn ardal Henryd, Sir y Fflint. Pedairdalen yw’r addurn maenfan ysgythredig, wedi’i sodro ar gylch plaen.

 

Meddai Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil, yr Adran Hanes ac Archaeoleg: “Mae enghreifftiau tebyg hefyd wedi dod i’r fei mewm blynyddoedd diweddar yng Nghaer-went ac Ynys Môn, felly mae’r canfyddiad hwn yng Nghonwy yn ychwanegiad diddorol at y dosbarth hwn o fodrwy addurnol ganoloesol.”

 

Pen strap arian 

 

Ar 23 Awst 2015, canfu Lee Skidmore ben strap arian canoloesol cynnar yn ardal Yr Orsedd, Wrecsam. Mae ysgythriad ar y pen strap ar ffurf dyluniad sŵomorffig. Mae dau dwll rhybed crwn ar yr atodyn rhanedig sydd ar gyfer strap lledr. Oddi tanynt, ar ffurf patrwm palmed trillabedog canolog, mae patrwm ‘sgrôl gwinwydd’ a chanddo goes grom yn nannedd pedwartroedyn mewn proffil. Ar derfyn y pen strap mae pen anifail byr arddulliadol a chanddo glustiau a llygaid tebyg i gath a dau ddot i gynrychioli cannwyll y llygaid.

 

Meddai Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil, yr Adran Hanes ac Archaeoleg: “Nifer fechan o bennau strap Eingl-Sacsonaidd a geir yng Nghymru. Mae arddull yr anifail a’r planhigyn pleth (fel pe bai’n byw yn y gwinwydd) a’r terfyn sŵomorffig yn dangos fod y gwaith Eingl-Sacsonaidd hwn o ddiwedd yr 8fed ganrif neu’r 9fed ganrif yn rhan o’r math Trewhiddle toreithiog o bennau strap y 9fed ganrif.”

 

Modrwy bys aur 

 

Ym mis Gorffennaf 2016, canfu Paul Byrne fodrwy aur o ddiwedd yr oesoedd canol yn ardal Cilcain, Sir y Fflint. Mae’r fodrwy addurnol ar ffurf band gwastad ag addurn allanol. Mae’r addurn allanol yn dangos blodau, dail a phelydrau wedi’u hysgythru rhwng y geiriau avez mon cur (‘mae gennyt fy nghalon’) mewn llawysgrif gothig.

 

Meddai Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil, yr Adran Hanes ac Archaeoleg: “Dyma enghraifft gain o fodrwy bwysi, y mae ei geiriau yn datgan cariad mewn modd tebyg i ysgythriadau eraill y 15fed ganrif, megis mon cuer entier ‘fy nghalon gyfan”. Mae’n ychwanegiad pwysig at y corff cynyddol o arwyddeiriau ac ysgythriadau gemwaith canoloesol a ddaw i’r fei yng Nghymru.”

 

Broetsh arian canoloesol 

 

Ym mis Gorffennaf 2016, daeth Simon Waite o hyd i froetsh gylchol ganoloesol fach arian yn ardal Trelawnyd a Gwaunysgor, Sir y Fflint. Mae addurn endoredig gam wrth gam ar un o’r arwynebau gwastad, ac mae llinell endoredig igam ogam syml o gwmpas hanner y ffrâm ar yr ochr arall.

 

Meddai Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil, yr Adran Hanes ac Archaeoleg: “Mae’r maint a’r dyluniad yn dyddio o’r 13eg ganrif neu ganol y 14eg ganrif. Mae nifer o froetshys o’r math cyffredinol hwn wedi’u canfod yng Nghymru. Mae’r patrwm gam wrth gam yn arbennig o ddiddorol, oherwydd gwelir y patrwm addurnol hwn fwyaf ar wrthrychau cynharach y 10fed ac 11eg ganrif, gan gynnwys ar goesyn pinnau cylchog.”

 

Meddai Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes, Adran Hanes ac Archaeoleg“Mae’n hynod bositif clywed am grŵp mor amrywiol o ganfyddiadau diweddar ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, o’r cyfnod Rhufeinig hyd y canoloesoedd. Maent yn ffynonellau gymorth gwirioneddol i adrodd straeon newydd am hunaniaeth ddiwylliannol, dylanwad a chysylltiadau pob hynafol Cymru.”

 

“Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae dros 400 o eitemau wedi’u cyhoeddi yn drysor yng Nghymru. Maent yn cynrychioli agwedd bwysig a chynyddol amlwg o dreftadaeth ddiwylliannol ein cenedl. Mae’r project bellach yn galluogi amgueddfeydd lleol ac Amgueddfa Cymru i brynu nifer cynyddol o drysorau o bob cwr o Gymru er budd y cyhoedd. Mae’r gwrthrychau hyn, sydd yn aml yn wrthrychau personol, yn creu cysylltiadau cryf rhwng pobl heddiw a phobl y gorffennol.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru