Toriadau pellach Cymraeg i Oedolion

09/07/2014

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Toriadau pellach Cymraeg i Oedolion - cwestiynau am ‘ddidwylledd’ Carwyn Jones

 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio toriadau pellach o bron i £700,000 i Gymraeg i Oedolion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw.

 

Mewn llythyr i ganolfannau Cymraeg i Oedolion, medd Llywodraeth Cymru bod y toriadau yn dod oherwydd "... nad oes cyllid ychwanegol ar gael i gefnogi gweithrediad y Strategaeth Iaith ...". Honnodd y Prif Weinidog ei fod yn buddsoddi £1.6 miliwn yn y Gymraeg mewn datganiad polisi fis diwethaf. Mae’r cwtogiad i Gymraeg i Oedolion yn dod ar ben toriadau o 8% sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.

 

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  "Pan gyhoeddodd Carwyn Jones ei fuddsoddiad honedig yn y Gymraeg fis diwethaf, mi geisiodd o adael yr argraff y byddai yna arian ychwanegol sylweddol. Er gwaetha’r holl sbin, mae'n debyg nad ydy'r Gymraeg yn ddigon o flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae'r toriadau yma’n codi cwestiynau am ddidwylledd y Prif Weinidog.” 

 

Ym mis Chwefror 2013, addawodd y Prif Weinidog y byddai’n cyhoeddi asesiad o effaith holl wariant Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg. Nid oes asesiad wedi ei gyhoeddi eto. Ym mis Ebrill y llynedd, datgelodd Cymdeithas yr Iaith fanylion cais rhyddid gwybodaeth a ddangosodd fod y swm oedd wedi ei wario ar addysg cyfrwng Cymraeg i oedolion yn y gymuned - allan o gyllideb o bron i £17 miliwn - yn llai na phedair mil o bunnau, sef 0.02% o’r gyllideb.

 

Ychwanegodd Mr Farrar: "Yr hyn sydd ei angen yw tegwch ariannol i’r Gymraeg. Nid yw Cymdeithas yr Iaith yn derbyn bod angen toriadau - ond hyd yn oed yng nghyd-destun mesurau llymder, mae toriadau o’r math yma’n annheg, gan gofio bod gwariant ar hyrwyddo’r Gymraeg yn llai na 0.15% o gyllideb y Llywodraeth. Rydyn ni wedi galw am asesiad o effaith iaith gwariant pob adran o’r  Llywodraeth, fel bod modd sicrhau bod buddsoddiad sylweddol a theg yn yr iaith. Addawodd y Prif Weinidog hynny dros 16 mis yn ôl, ond ’dan ni heb glywed dim ers hynny.

 

“Er bod pobl eisiau byw yn Gymraeg, mae’r ewyllys gwleidyddol sydd ei angen er mwyn gwireddu dyhead pobl Cymru ar goll. Rydyn ni wedi llunio agenda glir fyddai’n helpu’r Llywodraeth i sicrhau bod pawb, o bob cefndir, yn cael byw yn Gymraeg: fel sicrhau addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol a bil cynllunio er lles y Gymraeg. Ond 18 mis ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad, mae’r Llywodraeth wedi methu â gweithredu o ddifrif. Mae cyfraniad Cymraeg i Oedolion yn bwysig er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fwynhau ein hiaith genedlaethol unigryw."

 

Ffynhonnell: Cymdeithas yr Iaith

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net