Blwyddyn Newydd Dda gan Ganolfan Mileniwm Cymru

09/01/2012

Categori: Celfyddydau

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn bair o ddigwyddiadau celfyddydol amrywiol dros 2012.  Gyda sioe gerdd Cameron Mackintosh, Oliver! yn dod i ben ddiwedd y mis, cyn hir bydd rhaglen gwanwyn Stiwdio Weston yn cael ei chyhoeddi yn ogystal â chyfres o sioeau newydd ar lwyfan Donald Gordon. Felly er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael gwybod am holl ddigwyddiadau’r Ganolfan cadwch olwg ar ei gwefan neu cofrestrwch i dderbyn yr e-fwletin misol. Cliciwch yma i gofrestru.


Ond er mwyn i chi gael blas o’r hyn sydd ar y gweill gan y Ganolfan, dyma rywfaint o uchafbwyntiau hanner cyntaf y flwyddyn. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, un o gwmnïau preswyl y Ganolfan, yn dychwelyd i lwyfan Donald Gordon ar 26 Ion gyda Rhaglen Ryngwladol. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys gwaith gan goreograffwyr adnabyddus, Ohad Naharin a Itzik Galili, a fydd yn gwthio 12 o ddawnswyr y cwmni i’r eithaf ac yn dod a’u talent ragorol a’u hunigolrwydd i’r amlwg. Am ragor o fanylion neu i archebu tocyn cliciwch yma.

 

O ddechrau Chwefror bydd tymor newydd Opera Cenedlaethol Cymru yn meddiannu’r prif lwyfan gyda rhaglen egnïol, brwd yn cynnwys La traviata, Beatrice & Benedict a The Marriage of Figaro. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

 

Digon felly am y cyfnod, ond rydyn ni wedi clywed bod llawer mwy o newyddion cyffrous i ddod o’r Ganolfan eleni...