Mudiadau iaith yn beirniadu'r cwricwlwm newydd

30/01/2019

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Mae mudiadiau Dyfodol i’r Iaith a Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi ymateb yn chwyrn i gymal ym mhapur gwyn y Llywodraeth ar Gwricwlwm Newydd i Gymru.

Maent yn gwrthwynebu’r cymal bod rhaid i addysg a gyllidir, gan gynnwys Cylchoedd Meithrin, addysgu Saesneg fel elfen orfodol o’r cwricwlwm. Yn ôl y mudiad, mae hyn yn tynnu’n groes a’r drefn bresennol, lle caniateir i’r Saesneg cael ei gyflwyno’n raddol o 7 oed ymlaen.

 

“Mae’r cymal hwn yn anelu saeth at galon addysg Gymraeg,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad. “Mae’r cyfnod sylfaenol yn dyngedfennol o safbwynt dysgu. Rhaid mynnu ar ofod arbennig i’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn os ydym am i’n plant ddysgu a dod yn rhugl yn y Gymraeg. Ni allaf feddwl am unrhyw gynsail i’r fath gynnig; yn wir, mae’r Papur Gwyn yn cydnabod ei hun nad yw’r Saesneg yn bwnc sydd angen y fath statws statudol.”

 

Dadwneud ymdrechion i gefnogi’r Gymraeg

 

Ychwanegodd Heini Gruffudd, “Ffolineb arall, wrth gwrs, yw bod y Llywodraeth yn dadwneud yr ymdrechion i gefnogi’r Gymraeg ac yn tanseilio ei nod o greu miliwn o siaradwyr. Ni allwn dderbyn y fath ergyd hurt. Mae’n gam digyffelyb i’r gorffennol, ac yn tanseilio rhai o egwyddorion sylfaenol addysg Gymraeg.”

 

"Rhaid gwrthwynebu hyn ar bob cyfrif, a phwyswn yn daer ar y Gweinidog Addysg i gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnu ar y cynnig yn ddioed."

 

Dinistriol

 

Ymatebodd mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn dilyn cyhoeddi'r Papur Gwyn ar y cwricwlwm newydd, ‘Cenhadaeth Ein Cenedl: Cwricwlwm Trawsnewidiol’. 

 

Dywedodd Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, "Byddai gweithredu'r cymal hwn yn gwbl ddinistriol i’r iaith, ac yn wir gallai arwain at dranc addysg Gymraeg. Mae'n syfrdanol bod y fath gynnig wedi ei gynnwys yn y Papur terfynol.

 

"Mae angen i’r Gweinidog ddeall - ac yn wir, fe ddylai fod yn ymwybodol eisoes - mai yn y dosbarthiadau meithrin a’r ysgol mae plant o deuluoedd di-Gymraeg yn cael y seiliau angenrheidiol yn y Gymraeg. Ym mhob cylch arall o’u bywyd y Saesneg sydd drech.  Rhaid diogelu'r cylch hwn os ydym am sicrhau bod ein plant yn caffael yr iaith ac yn dod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae ymchwil rhyngwladol sydd wedi'i hen sefydlu a'i gydnabod yn cefnogi hyn."

 

Ychwanegodd Wyn Williams, "Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad yn rhyngwladol ym maes trochi ieithyddol a gwledydd eraill yn edrych arnom ni fel enghraifft o arfer dda. Nid oes unrhyw amheuaeth bod y cynnig hwn yn milwrio yn erbyn holl bolisïau'r Llywodraeth i ehangu addysg Gymraeg dros y degawd diwethaf a byddai'n tanseilio'r nod cenedlaethol o gael Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, heb sôn am gyfraniad a thwf aruthrol y mudiad addysg Gymraeg dros y 70 mlynedd diwethaf. Byddai'n gamgymeriad difrifol pe bai Llywodraeth Cymru yn dewis dilyn y llwybr hwn.