Cyfres newydd yn dilyn Heddlu Dyfed Powys wrth ddod o hyd i bobl sy'n mynd ar goll

25/02/2019

Categori: Celfyddydau, Iechyd, Newyddion

Mewn cyfres uchelgeisiol ar S4C o’r enw Ar Goll y’n dechrau nos Fercher yma, bydd cyfle i wylwyr ddilyn ymdrechion Heddlu Dyfed Powys i drio dod o hyd i bobl a phlant sy’n mynd ar goll ar draws y llu.

Mewn cyfres o chwe’ rhaglen, cawn fod yno ar y foment gyda’r heddlu wrth iddyn nhw chwilio am bobl yng ngorllewin a chanolbarth Cymru.

 

Fe gafodd ITV Cymru fynediad ecsgliwsif i waith anweledig rhai o’r swyddogion Heddlu Dyfed Powys dros y misoedd diwetha’ a dyma ddarlun o waith heddlu dderbyniodd dros dair mil o alwadau y llynedd am bobl oedd ar goll.

 

Yn y rhaglen gyntaf, ry’n ni’n cael mynediad ecsgliwsif i waith y ganolfan reoli ym mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin a’r staff yno sy’n gweithio bob awr, bob dydd yn ymateb i alwadau 999 ac 101. 

 

“Tu ôl i bob person sydd yn mynd ar goll, mae ’na stori, mae 'na broblem.  Mae’r berthynas gyda’r teuluoedd yn hollbwysig,” meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Richard Lewis. “Dim ond mewn 5% o’r holl achosion rydyn ni’n gofyn am help gan y cyhoedd ac felly mae’n amhosib i’r cyhoedd i ystyried faint o’n hadnoddau ni sydd yn cael eu clymu yn chwilio am bobl sydd ar goll.” 

 

Gyda thwf mewn problemau iechyd meddwl, mae’r gyfres hefyd yn cynnwys straeon dirdynnol rhai o bobl fwya' bregus ein cymunedau a’u teuluoedd sydd yn aros am lygedyn o obaith. Mae un rhaglen yn dilyn stori mam ifanc sydd wedi bygwth hunanladdiad cyn diflannu mewn parc gwledig ger Llanelli, ac mae angen cymorth gwasanaeth hofrennydd yr heddlu, NPAS i geisio ei darganfod o’r awyr.

 

Darganfod dyn 25 oed

 

Yn ystod y gyfres mae’r camerâu hefyd yn dilyn yr ymdrechion i ddarganfod dyn 25 oed ar ôl iddo ddiflannu yn y môr yn Sir Benfro, gyda chwn arbenigol, asiantaethau Gwylwyr y Glannau a’r Gwasanaeth Tân i gyd yn defnyddio technegau arbennig wrth gydweithio tra’n chwilio.

 

“Heddlu Dyfed Powys yw’r llu mwyaf yng Nghymru a Lloegr yn ddaearyddol. Mae’n bedair mil o filltiroedd sgwâr ac yn cynnwys trefi mawr ac ardaloedd gwledig. Mae ‘na sialens wahanol felly gyda phob ardal,” ychwanega’r Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Lewis.